Newyddion S4C

Teyrngedau i ‘ferch fach berffaith’ fu farw mewn gwrthdrawiad yn Llanelli

12/10/2021
Eva Maria

Mae rhieni i ferch chwe mis oed fu farw mewn gwrthdrawiad yn Llanelli wedi talu teyrnged i’w “merch fach berffaith”.

Bu farw Eva Maria Nichifor yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gar ar groesffordd Heol Goffa yn Llanelli tua 21:00 nos Wener, 8 Hydref.

Dywedodd ei rhieni, Florin a Carmen: “Hi oedd ein gwyrth, ein merch fach berffaith, rhodd gan Dduw.

“Bydd hi yn ein calonnau am byth,” ychwanegon.

“Bydd Eva Maria, oedd ddim ond yn chwe mis oed, yn cael ei cholli gennym ni i gyd.

“Hoffem ddiolch i bawb am eu cefnogaeth am yr adeg ofnadwy hwn. Mae’n golygu gymaint i’r teulu.”

Mae menyw 23 oed wedi ei harestio yn dilyn y gwrthdrawiad.

Ymddangosodd Lucy Dyer mewn llys ddydd Llun wedi ei chyhuddo o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus a gyrru dan ddylanwad alcohol.

Mae Ms Dyer wedi cael ei chadw yn y ddalfa nes y gwrandawiad nesaf yn Llys Y Goron Abertawe ar 12 Tachwedd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.