Cipolwg ar benawdau'r bore
Bore da gan dîm Newyddion S4C.
Dyma brif straeon bore Gwener, 8 Hydref.
Cyflwyno manylion cynllun diogelu Cymru rhag Covid-19 dros y gaeaf
Bydd Mark Drakeford yn manylu ar gynlluniau y llywodraeth i gadw Cymru "ar agor ac yn ddiogel" dros fisoedd y gaeaf yn ddiweddarach ddydd Gwener. Mae'r llywodraeth wedi cyhoeddi Cynllun Rheoli'r Coronafeirws sy'n cynnig dwy senario bosib gan ddibynnu ar ymlediad yr haint dros y misoedd i ddod. Wrth gyhoeddi'r cynllun, dywedodd Mark Drakeford fod Cymru'n wynebu gaeaf "heriol iawn".
Rhybudd am gynnydd mewn marwolaethau ffliw yn y misoedd i ddod
Mae swyddogion iechyd wedi rhybuddio y gallai’r DU wynebu cynnydd mewn marwolaethau o ganlyniad i’r ffliw y gaeaf hwn. Yn ôl ymchwilwyr o’r Academi Gwyddorau Meddygol, gallai’r DU weld niferoedd y marwolaethau a thriniaethau ysbyty oherwydd y ffliw yn dyblu. Mae’r rhybudd yn awgrymu y gallai hyd at 60,000 o bobl farw, yn ôl Sky News.
Wrecsam yn cyrraedd rhestr hir Dinas Diwylliant y DU 2025
Mae tref Wrecsam wedi cyrraedd rhestr hir Dinas Diwylliant y DU 2025. Os yn llwyddiannus, Wrecsam fyddai’r ardal gyntaf o Gymru i ennill y wobr, er i Abertawe gyrraedd y rhestr fer yn 2017 a 2021. Bydd y dref fuddugol yn cael ei chyhoeddi y flwyddyn nesaf.
Cau drysau Neuadd Aberporth ar ôl bron i 90 mlynedd
Ymhen ychydig wythnosau, fe fydd Neuadd Aberporth yng Ngheredigion yn cael ei dymchwel ar ôl gwasanaethu'r gymuned am bron i 90 mlynedd. Cafodd ei chodi yn 1935 ar gost o tua £70, diolch i ymdrech criw o wirfoddolwyr lleol. Ar hyd y degawadau, mae'r neuadd wedi bod yn leoliad i achlysuron mawr y dydd: y dathlu a'r cofio, eisteddfodau cyngherddau a dramâu. Bydd neuadd newydd yn cael ei chodi yn ei lle.
Cwpan y Byd 2022: Cymru’n herio'r Weriniaeth Tsiec
Bydd tîm pêl-droed Cymru yn herio'r Weriniaeth Tsiec mewn gêm ragbrofol pencampwriaeth Cwpan y Byd 2022 ym Mhrag nos Wener. Daw hyn ar ôl i’r rheolwr dros-dro Rob Page gadarnhau y bydd Aaron Ramsey yn cymryd lle Gareth Bale fel capten, sydd allan o’r garfan oherwydd anaf. Mae Cymru yn gobeithio am fuddugoliaeth nos Wener, yn dilyn gêm gyfartal yn erbyn Estonia yn gynharach mis Medi.