Newyddion S4C

Cwpan y Byd 2022: Cymru’n herio'r Weriniaeth Tsiec

08/10/2021
Aaron Ramsey

Bydd tîm pêl-droed Cymru yn herio Gweriniaeth Tsiec mewn gêm ragbrofol pencampwriaeth Cwpan y Byd 2022 ym Mhrag nos Wener.

Daw hyn ar ôl i’r rheolwr dros-dro Rob Page gadarnhau y bydd Aaron Ramsey yn cymryd lle Gareth Bale fel capten, sydd allan o’r garfan oherwydd anaf.

Mae Cymru yn gobeithio am fuddugoliaeth nos Wener, yn dilyn gêm gyfartal yn erbyn Estonia yn gynharach mis Medi.

Yn Stadiwm Sinobo, bydd y garfan yn ceisio sicrhau mantais a dringo o’r trydydd i’r ail safle yn eu grŵp.

Gwlad Belg sydd ar y brig gyda 16 pwynt hyd yma, a'r Weriniaeth Siec yn gydradd ail â Chymru. Ond, mae'r Weriniaeth Tsiec wedi chwarae un gêm yn fwy na Chymru.

Yn gynharach, fe gadarnhaodd y Gymdeithas Bêl-droed bod Rhys Norrington-Davies a Tom Lockyer allan o’r garfan oherwydd anafiadau, gyda Will Vaulks a Ben Cabango yn cymryd lle'r ddau.

Ddydd Mercher, bu ergyd arall i’r tîm pan gyhoeddodd y gymdeithas bod Ben Davies a David Brooks allan o’r garfan oherwydd salwch.

'Pwyslais' ar ennill

Mewn cynhadledd i’r wasg ddydd Mawrth, dywedodd Joe Allen: “Dwi’n meddwl ma’ mwy o bwyslais i ni fynd allan ac ennill nawr, neu ceisio ennill y gêm.

“Odd e’n siom i beidio cael y triphwynt tro diwetha’.

“Yn anffodus, o’n ni peidio â gallu sgorio. Ond na, dwy gêm nawr i edrych ymlaen at, a cheisio cael y chwe phwynt os ma’n bosib.

“Ma’ nhw’n [Gweriniaeth Tsiec] yn dîm sydd yn gallu chwarae’n dechnegol ond hefyd, ma’ ganddyn nhw chwaraewyr ffisegol iawn.

“Felly, dwi’n edrych ymlaen am y sialens o geisio ymdopi a’r ddwy ‘aspect’ o’r gêm.

“Ni ‘di bod yn gweithio yn galed erbyn hyn ar sut ma’ nhw’n chware. Sut gallwn ni, yn gyntaf ymdopi â nhw, ond hefyd creu problemau iddyn nhw.

“A dwi’n meddwl, o siarad â’r bois, ma’ pawb yn edrych ymlaen at y gêm yma, er mwyn dangos be’ allwn ni wneud yn erbyn tîm weddol gryf.”

Llun: Asiantaeth luniau Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.