Newyddion S4C

Cyflwyno cynllun diogelu Cymru rhag Covid-19 dros aeaf 'heriol iawn'

08/10/2021
S4C

Mae'r prif weinidog wedi manylu ar gynlluniau y llywodraeth i gadw Cymru "ar agor ac yn ddiogel" dros fisoedd y gaeaf mewn cynhadledd ddydd Gwener. 

Dywedodd Mark Drakeford y bydd Cymru yn aros ar lefel sero am y tair wythnos nesaf, sy'n golygu na fydd unrhyw newid i fusnesau am y tro.

Cyhoeddodd Mr Drakeford hefyd y bydd rhai rheolau mewn cartrefi gofal yn cael eu llacio.

Dywedodd y bydd rheolau o ran ymbellhau cymdeithasol yn cael eu gwaredu mewn ystafelloedd gwely ac ystafelloedd cwrdd ac ychwanegodd y bydd ymwelwyr yn gallu gwneud profion llif unffordd adref yn hytrach nag yn y cartref gofal.

Dywedodd: "Mae cartrefi gofal ac ymweld â chartrefi gofal wedi bod yn un o'r pethau mwyaf heriol yn ystod y pandemig." 

Ychwanegodd Mr Drakeford bod nifer yr achosion yn gyffredinol ac ymysg pobl ifanc yn dechrau gostwng.

Dywedodd: "Mae gwaith ymchwil gan Brifysgol Abertawe yn dangos bod nifer yr achosion yn uwch yn ystod y don hon o Covid na gaeaf y llynedd ond mae'n ymddangos ein bod wedi pasio brig y don," medd Mark Drakeford.

Ond, rhybuddiodd bod achosion o'r ffliw yn bryder dros y gaeaf:

"Ond rhaid cofio nad yw'r pandemig ar ben. Mae ein arbenigwyr meddygol yn rhybuddio y gallai bod mwy o achosion o'r ffliw yn ystod gaeaf eleni," ychwanegodd

Nos Iau fe gyhoeddodd y llywodraeth Gynllun Rheoli'r Coronafeirws - cynllun sydd yn cynnig dwy senario bosib gan ddibynnu ar ymlediad yr haint dros y misoedd i ddod.

Wrth gyhoeddi'r cynllun, dywedodd Mark Drakeford fod Cymru'n wynebu gaeaf "heriol iawn".

Covid Sefydlog:

O dan y senario gyntaf, sy'n cael ei galw'n Covid Sefydlog, fe fydd Cymru yn aros ar lefel rhybudd sero drwy gydol yr hydref a'r gaeaf, gyda phob busnes yn gallu agor. 

Yn ôl Llywodraeth Cymru, credir mai hon yw'r senario fwyaf tebygol ar gyfer y dyfodol. Os bydd nifer yr achosion o Covid-19 yn gostwng, gallai mesurau gael eu llacio ymhellach. 

Ond, os bydd y nifer o achosion yn cynyddu, gallai rhai mesurau presennol gael eu cryfhau. 

Covid Brys:

Mae'r ail senario gynllunio yn cael ei galw'n Covid Brys. 

Fe fydd y senario hyn yn dod i rym er mwyn ymateb i unrhyw newidiadau sydyn, er enghraifft ymddangosiad amrywiolyn newydd a fydd yn lledaenu'n gyflym, neu gallai'r lefelau imiwnedd a fydd wedi eu meithrin yn sgil cael y brechlyn yn gostwng, ac o ganlyniad yn rhoi'r Gwasanaeth Iechyd dan ormod o bwysau. 

Mewn senario o’r fath, dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd system lefelau rhybudd a chyfyngiadau yn cael ei defnyddio mewn "modd cymesur i ddiogelu iechyd pobl, rheoli lledaeniad yr haint a diogelu’r Gwasanaeth Iechyd". 

Coronafeirws heb ‘ddiflannu’

Dywedodd Mark Drakeford fod Cymru'n wynebu gaeaf "heriol iawn".

“Nid yw’r coronafeirws wedi diflannu ac maen nhw hefyd yn rhagweld y bydd y ffliw yn dychwelyd y gaeaf hwn," eglurodd. 

“Y brechlyn yw’r amddiffyniad gorau sydd gennym ni o hyd yn erbyn y coronafeirws. Y mwyaf o bobl a fydd yn cael eu brechu’n llawn, y gorau oll fydd ein siawns o reoli lledaeniad y feirws ofnadwy hwn. 

“Byddwn ni’n parhau i ganolbwyntio ar gynyddu nifer y bobl sy’n cael brechiadau COVID-19 ar draws y grwpiau oedran a’r grwpiau blaenoriaeth yn ogystal â chyflwyno’r brechiad atgyfnerthu. Rydyn ni hefyd yn annog pob un sy’n gymwys i fynd i gael y brechiad rhag y ffliw eleni.

“Mae amrywiaeth o fesurau eraill y gallwn ni i gyd eu cymryd hefyd i ddiogelu ein hunain a’n teuluoedd a’n ffrindiau – mesurau fel golchi ein dwylo, cwrdd â llai o bobl a gwisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus dan do.

“Mae’r mesurau hyn wedi ein helpu ni i gadw’n ddiogel drwy gydol y pandemig a byddan nhw hefyd yn helpu i’n diogelu rhag feirysau eraill y gaeaf, fel y ffliw a heintiau anadlol eraill.”

Mewn ymateb i gyhoeddiad y Prif Weinidog, dywedodd Gweinidog Iechyd Cysgodol y Ceidwadwyr Cymreig, Russell George AS: 

“Fel wnaeth y Prif Weinidog gydnabod, yr allwedd i ddatgloi cymdeithas a'r economi ar ôl gwanhau'r cysylltiad rhwng haint a thriniaeth ysbyty yn sylweddol yw'r brechlynnau. 

"I'r rheiny sydd heb gael eu brechu neu sy'n gymwys i gael brechlyn atgyfnerthy, rydym yn eu hannog i wneud hynny."

 Ychwanegodd: “Fodd bynnag, wrth i ni aros yn Lefel 0, mae'r cyfyngiadau newydd sy'n cael eu cyflwyno yn orfodol, aneffeithio a bydd pasbortiau Covid sy'n wrth-fusnesau yn rhwystro ein rhyddid, yn methu ag atal lledaeniad y feirws yn ôl gwyddonwyr Llywodraeth Cymru ei hun, ac yn ychwanegu bwrdwn ar fusnesau sydd eisoes dan straen." 

“Felly yn lle cyfyngiadau pellach, mae angen i weinidogion Llafur gyflwyno mesurau go-iawn ar gyfer y gaeaf sy'n darparu hybiau triniaeth Covid y mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn galw amdanynt ers tro gan wneud tro pedol ar eu penderfyniad niweidiol i gyflwyno pasborts Covid.”

Bydd hi'n ofynnol i unrhyw un dros 18 i ddangos pàs neu brawf llif unffordd negyddol cyn mynd i glwb nos, digwyddiad tu mewn lle mae mwy na 500 o bobl yn sefyll, digwyddiad tu allan lle mae mwy na 4,000 o bobl yn sefyll neu unrhyw ddigwyddiad i fwy na 10,000 o bobl.

Fe wnaeth Mr Drakeford gadarnhau yn y gynhadledd y bydd pasys Covid yn dod i rym ddydd Llun 11 Hydref.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.