Newyddion S4C

Cau drysau Neuadd Aberporth ar ôl bron i 90 mlynedd

Newyddion S4C 08/10/2021

Cau drysau Neuadd Aberporth ar ôl bron i 90 mlynedd

Ymhen ychydig wythnosau, fe fydd Neuadd Aberporth yng Ngheredigion yn cael ei dymchwel ar ôl gwasanaethu'r gymuned am bron i 90 mlynedd. 

Cafodd ei chodi yn 1935 ar gost o tua £70, diolch i ymdrech criw o wirfoddolwyr lleol.

Ar hyd y degawadau, mae'r neuadd wedi bod yn leoliad i achlysuron mawr y dydd: y dathlu a'r cofio, eisteddfodau cyngherddau a dramâu.

Bu hefyd yn leoliad ar gyfer gornest wrestlo, gyda'r enwog Giant Haystacks yn diddanu'r dyrfa yno.

Ymhen ychydig wythnosau, fe fydd y peiriannau trymion yn mynd ati i ddymchwel yr adeilad pren ac asbestos unwaith ac am byth, cyn y bydd neuadd newydd sbon yn cael ei chodi ar gost o £1.1m.

Image
Newyddion S4C
John Davies neu 'John y Graig yn rhannu ei atgofion melys o'r neuadd. 

Mae John Davies neu 'John y Graig', sydd yn 96 oed, yn cofio'r neuadd yn cael ei chodi nôl yn y 30au.

"We ni yn chwech neu saith oed ar y pryd," dywedodd.

"Dwi'n cofio chwarae yn y foundations, cyn bod nhw'n bennu rhoi'r llawr mewn"

Mae John yn cofio mynd i'r Pictiwrs yn y Neuadd tra'n blentyn: "Bob nos Wener, wedd excitement mowr.

"Wy'n cofio'r ffilm gyntaf "While London Burns" a wedd ffilm cowboi "Wild Bill Hickock."

Erbyn hyn, mae'r gymuned wedi datblygu cynlluniau i godi neuadd gymunedol newydd ar gost o £1.1m.

Mae'r cynllun eisioes wedi denu arian grant sylweddol o £700,000, gyda £450,000 yn dod o goffrau'r Loteri. 

Image
Newyddion S4C
Y Cynghorydd Sir dros Aberporth, Gethin Davies

 

Yn ôl y Cynghorydd Sir dros Aberporth, Gethin Davies, mae'n "drist i weld e'n mynd", ond mae "hi wedi dod i'r cyfnod pan mae eisiau neuadd newydd arnom ni."

Mae'n cofio digwyddiadau lu yn y neuadd yn ystod y 70au.

"Amser hynny, wedd disgos, twmpath dawns bob nos Sadwrn," dywedodd wrth raglen Newyddion S4C.

"Mae'r neuadd wedi cael ei defnyddio hefyd ar gyfer y farchnad, karate. Mae'r neuadd wedi treulio ac mae eisiau moderneiddio popeth am y dyfodol i'r ieuenctid."

Fe fydd gwasnaeth arbennig o ddiolchgarwch yn cael ei gynnal yn y neuadd prynhawn ddydd Sadwrn i ddiolch am wasanaaeth yr hen neuadd, ond hefyd i fendithio'r neuadd newydd fydd yn cael ei hadeiladu. 

Image
Newyddion S4C
Côr Meibion Blaenporth yn ymarfer ar gyfer eu perfformiad olaf yn y neuadd.

Côr Meibion Blaenporth yn paratoi at berfformiad olaf yn Neuadd Aberporth. 

Cyfrifoldeb Côr Meibion Blaenporth fydd cynnal y perfformiad olaf yn y neuadd.

Dywedodd Margaret Daniel, sef arweinyddes y côr: "Mae'n anrhydedd mawr achos dyna'r unig eitem gerddorol sydd yn mynd i fod yn y seremoni cloi. Ni'n falch iawn mai ni sydd wedi cael gwahoddiad. Ni'n mynd i ganu dwy gân. Myfanwy gan Joseph Parry a trefniant o'r Dref Wen gan Tecwyn Ifan.

"Yn fan'na wnaethon ni ddysgu ein prentistiaeth i ddweud y gwir. Mae cof da fi am fod yn ifanc iawn yn eistedd ac yn gwrando tan un neu ddau y bore yn gwrando ar yr unawd a clywed y darnau mawr yma, yr arias mawr yma.  

"Ro'n ni gyda hefyd yn perthyn i aelwyd yr Urdd yn Aberporth oedd mor enwog a llwyddiannus dan arweiniad y Parchedig a Mrs Tegryn Davies. 

Ond, mae Ms Daniel yn croesawu'r neuadd newydd.

"Mae hi wedi chwythu ei phlwc a rhyw ddiwrnod bydd y to yn dod mewn!" dywedodd.

"Fe fydd hi'n gyffrous i gael un newydd."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.