Wrecsam yn cyrraedd rhestr hir Dinas Diwylliant y DU 2025
Mae tref Wrecsam wedi cyrraedd rhestr hir Dinas Diwylliant y DU 2025.
Os yn llwyddiannus, Wrecsam fyddai’r ardal gyntaf o Gymru i ennill y wobr, er i Abertawe gyrraedd y rhestr fer yn 2017 a 2021.
Yn dilyn y newyddion, dywedodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon Cymru, Dawn Bowden:
“Rwy’n falch iawn bod Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi cyrraedd rhestr hir Dinas Diwylliant y DU 2025.
“Mae gennym ni ddiwylliant unigryw a rhyfeddol yma yng Nghymru, ac rydyn ni i gyd yn hynod falch ohono. Rwyf am i'r byd wybod pa mor rhyfeddol ydyw hefyd!
“Byddai cael ei henwi’n Ddinas Diwylliant y DU 2025 yn wirioneddol drawsnewidiol i Wrecsam, a byddai’n hwb gwirioneddol wrth inni edrych ymlaen at ddyfodol mwy disglair, mwy llewyrchus.
“Llongyfarchiadau i bawb yn Team Wrecsam, a phob lwc ar gyfer camau nesaf y gystadleuaeth!”
Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi ym mis Mai 2022.