Rhybudd am gynnydd mewn marwolaethau ffliw yn y misoedd i ddod
08/10/2021
Mae swyddogion iechyd wedi rhybuddio y gallai’r DU wynebu cynnydd mewn marwolaethau o ganlyniad i’r ffliw y gaeaf hwn.
Yn ôl ymchwilwyr o’r Academi Gwyddorau Meddygol, gallai’r DU weld niferoedd y marwolaethau a thriniaethau ysbyty oherwydd y ffliw yn dyblu.
Mae’r rhybudd yn awgrymu y gallai hyd at 60,000 o bobl farw, yn ôl Sky News.
Dywedodd Prif Weinthredwr Asiantaeth Diogelu Iechyd y DU, Dr Jenny Harries: “Rydym yn disgwyl i influenza fod llawer mwy cyffredin yng ngaeaf 21/22”, a hynny wrth i bobl gymysgu ac wrth i ragor o ffiniau teithio ddechrau ail-agor.
Darllenwch y stori’n llawn yma.