Cipolwg ar benawdau'r bore
Bore da gan dîm Newyddion S4C.
Dyma olwg ar rai o brif straeon Cymru a thu hwnt ar fore Mawrth, 5 Hydref.
Aelodau'r Senedd i bleidleisio ar basys Covid-19
Fe fydd y drafodaeth dros gyflwyno pasys Covid-19 yn cymryd lle yn y Senedd ddydd Mawrth, yn ôl Wales Online. Os bydd y Senedd yn pasio cynigion Llywodraeth Cymru, bydd rheol pasys Covid-19 yn dod i rym yng Nghymru ar 11 Hydref.
Facebook, Instagram a Whatsapp yn gweithio eto ar ôl problemau technegol
Mae cwmnïau Facebook, Instagram a Whatsapp wedi eu hadfer ar ôl dioddef problemau technegol brynhawn ddydd Llun, yn ôl The Guardian. Fe gadarnhaodd Facebook ddydd Mawrth mai newid annisgwyl i feddalwedd oedd yn trefnu traffig rhwydwaith rhwng canolfannau data'r cwmni oedd wedi achosi'r problemau.
Pôl piniwn yn datgelu ymdrechion pobl Cymru i ymateb i newid hinsawdd
Mae pobl yng Nghymru yn 'gefnogol' o gynlluniau ailgylchu i fynd i'r afael â newid hinsawdd, ond yn llai parod i wneud pethau eraill i helpu'r amgylchedd, yn ôl pôl piniwn gan ITV Cymru. Serch hynny, mae gweithrediadau eraill i fynd i'r afael â newid hinsawdd, fel torri cig a chynnyrch llaeth, yn cael llai o gefnogaeth. Dim ond 11% o bobl fyddai'n stopio bwyta cig a chynnyrch llaeth er lles yr amgylchedd.
Oriel Môn i gasglu profiadau’r pandemig i’w rhoi ar gof a chadw
Mae Archifau Ynys Môn ac Oriel Môn wedi cyhoeddi eu bod am gasglu straeon a gwrthrychau gan drigolion yr ynys er mwyn cofnodi profiadau o bandemig Covid-19. Yn ôl y casglwyr, maent yn chwilio am straeon a gwrthrychau sydd o “bwysigrwydd personol”, all fod yn ddyddiaduron, llythyrau, ryseitiau, lluniau, fideos, cerddoriaeth neu waith celf.
Rhybudd yr heddlu fod dwyn disel ar gynnydd yn y gogledd
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi rhybuddio pobl a pherchnogion busnes fod lladradau disel yn y rhanbarth ar gynnydd. Daw hyn wrth i'r Deyrnas Unedig wynebu argyfwng tanwydd, gyda rhai pobl wedi bod yn rhuthro i brynu petrol a disel mewn panig. Yn ôl North Wales Live, mae ardaloedd megis Bangor a Bethesda yng Ngwynedd wedi gweld y cynnydd mwyaf.
Dominic Raab i 'drawsnewid' sut mae'r system gyfiawnder yn delio â thrais yn erbyn menywod
Mae disgwyl i Dominic Raab addo "trawsnewid" sut mae'r system gyfiawnder yn delio â thrais yn erbyn menywod. Yn ôl Sky News, fe fydd yr Ysgrifennydd Cyfiawnder yn annerch cynhadledd y Ceidwadwyr ym Manceinion ddydd Mawrth. Yn ei araith, mae disgwyl i Mr Raab gydnabod effaith dwys llofruddiaeth megis rhai Sarah Everard a Sabina Nessa, a dweud y bydd yn "cymryd Cod Dioddefwyr" a "thrawsnewid y canllawiau hynny'n gyfraith, gan sicrhau bod pob un llais yn cael ei glywed ym mhob achos".