Newyddion S4C

Oriel Môn i gasglu profiadau’r pandemig i’w rhoi ar gof a chadw

05/10/2021
NHS

Mae Archifau Ynys Môn ac Oriel Môn wedi cyhoeddi eu bod am gasglu straeon a gwrthrychau gan drigolion yr ynys er mwyn cofnodi profiadau o bandemig Covid-19.

Yn ôl y casglwyr, maent yn chwilio am straeon a gwrthrychau sydd o “bwysigrwydd personol”, all fod yn ddyddiaduron, llythyrau, ryseitiau, lluniau, fideos, cerddoriaeth neu waith celf.

Mae unigolion sydd wedi byw neu weithio ar Ynys Môn dros y deunaw mis diwethaf yn cael eu hannog i gymryd rhan yn y prosiect, o’r enw ‘Profiadau’r Pandemig: Dogfennu effaith Covid-19 ar Ynys Môn’.

Dywedodd Esther Roberts, Uwch Reolwr Oriel Môn, “Rydym ni yn Oriel Môn ac Archifau Ynys Môn wedi ymrwymo i gasglu, cofio a hyrwyddo’r cyfoeth o hanes sydd gan Ynys Môn.

“Rydym yn gwahodd pobl Ynys Môn i rannu eu straeon a’u gwrthrychau â ni er mwyn i ni allu cofnodi sut beth oedd bywyd ar yr Ynys yn ystod y deunaw mis digynsail diwethaf lle gwelwyd newidiadau sylweddol.”

Fel rhan o'r prosiect, maent hefyd am gyfweld â phobl am eu profiad o'r pandemig, gyda’r cyfweliadau hyn yn cael eu hystyried fel ‘hanes llafar’ – “asedau gwerthfawr”, yn ôl y casglwyr.

Ychwanegodd deilydd portffolio Addysg, Diwylliant, Llyfrgelloedd ac Adran Plant Ynys Môn, y Cynghorydd Meirion Jones, “Mae’r deunaw mis diwethaf wedi bod yn anodd ac yn heriol iawn i nifer o bobl ar yr Ynys.

"Fodd bynnag, mae hi’n bwysig ein bod yn gallu edrych yn ôl ar y cyfnod hwn ymhen blynyddoedd i ddod a chofio’r gwahanol straeon a phrofiadau y bu ein trigolion fyw trwyddynt.”

Mae modd cyfrannu drwy gysylltu gyda Chydlynydd Casgliad Covid-19 Cyngor Ynys Môn, gyda’r holl wybodaeth ar gael yma

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.