Facebook, Instagram a Whatsapp yn gweithio eto ar ôl problemau technegol
05/10/2021
Mae cwmnïau Facebook, Instagram a Whatsapp wedi eu hadfer ar ôl dioddef problemau technegol brynhawn ddydd Llun, yn ôl The Guardian.
Roedd defnyddwyr y gwefannau ar draws y byd wedi wynebu problemau wrth geisio cael mynediad i'w gwasanaethau.
Fe wnaeth cwmni Facebook, sydd yn berchen ar Instagram a WhatsApp, ymddiheuro am y trafferthion technegol oedd yn golygu nad oedd defnyddwyr yn gallu anfon na derbyn negeseuon, na diweddaru eu tudalennau.
Fe gadarnhaodd Facebook ddydd Mawrth mai newid annisgwyl i feddalwedd oedd yn trefnu traffig rhwydwaith rhwng canolfannau data'r cwmni oedd wedi achosi'r problemau.
Darllenwch y stori' n llawn yma.