Pôl piniwn yn datgelu ymdrechion pobl Cymru i ymateb i newid hinsawdd

Mae pobl yng Nghymru yn 'gefnogol' o gynlluniau ailgylchu i fynd i'r afael â newid hinsawdd, ond yn llai parod i wneud pethau eraill i helpu'r amgylchedd, yn ôl pôl piniwn gan ITV Cymru.
Mae'r arolwg barn yn dangos bod 61% o bobl yn ailgylchu’n gyson, hyd yn oed os ydyn nhw’n gorfod mynd allan o’u ffordd i wneud hynny.
Serch hynny, mae ffyrdd arall o fynd i’r afael â newid hinsawdd, fel bwyta llai o gig a chynnyrch llaeth wedi cael llai o gefnogaeth.
Dim ond 11% o bobl fyddai'n stopio bwyta cig a chynnyrch llaeth er lles yr amgylchedd, yn ôl y canlyniadau.
Fe ddywedodd 51% o bobl eu bod yn taflu bwyd o leiaf unwaith yr wythnos.
Wrth drafod ynni, mae’r pôl yn awgrymu nad yw cynaliadwyedd yn ffactor pwysig iawn i bobl wrth ddewis cwmni.
Mae’r arolwg yn awgrymu mai dim ond 10% o bobl oedd yn dweud bod pa mor wyrdd yw eu gwasanaeth ynni nhw yn dylanwadu ar eu dewis.
Pris ynni oedd yn bwysig i 61% o bobl.
Daw’r arolwg barn wrth i arweinwyr y byd baratoi am y daith i Glasgow ddiwedd mis Hydref i ymuno â Chynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig, COP26.
Bydd y gynhadledd eleni yn rhoi’r cyfle i arweinwyr ddod at ei gilydd i drafod gweithrediad, hinsawdd fyd-eang a’r camau nesaf i osgoi effaith niweidiol cynhesu byd-eang.
Roedd y gynhadledd, sy’n digwydd bob pum mlynedd, i fod i gael ei chynnal y llynedd ond cafodd ei gohirio oherwydd y pandemig.
Ond yn ôl y pôl, dim ond 15% oedd yn credu bod COP26 yn mynd i gael effaith gadarnhaol ar yr her i daclo newid hinsawdd.
Dywedodd llefarydd ar ran COP26: "Gellir gweld effeithiau newid hinsawdd ledled y byd ac os nad ydyn ni’n gweithredu nawr, fe fyddwn ni’n parhau i weld yr effeithiau gwaethaf ar ein bywydau, bywoliaeth a’n cynefinoedd naturiol. COP26 yw gobaith gorau olaf y byd i ddod at ein gilydd i weithredu yn erbyn newid hinsawdd”
"Rydyn ni'n gweithio'n galed i gadw at y nod o gyfyngu cynhesu byd-eang i 1.5C, a sicrhau dyfodol i’r blaned am genhedloedd i ddod."
Mae canlyniadau yr arolwg barn ar gael ar wefan ITV Cymru a bydd rhagor am hyn ar raglen Y Byd yn ei Le, nos Fercher, 6ed o Hydref am 8.25y.h.