Rhybudd yr heddlu fod dwyn disel ar gynnydd yn y gogledd
05/10/2021
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi rhybuddio pobl a pherchnogion busnes fod lladradau disel yn y rhanbarth ar gynnydd.
Daw hyn wrth i'r Deyrnas Unedig wynebu argyfwng tanwydd, gyda rhai pobl wedi bod yn rhuthro i brynu petrol a disel mewn panig.
Yn ôl North Wales Live, mae ardaloedd megis Bangor a Bethesda yng Ngwynedd wedi gweld y cynnydd mwyaf.
Mae'r heddlu yn gofyn i bobl sydd yn gweld unrhyw un yn ymddwyn yn amheus o amgylch ceir sydd wedi'u parcio i gysylltu â nhw dryw ffonio 101 neu drwy eu gwefan.
Darllenwch y stori'n llawn yma.