Y lluniau cyntaf o gynllun canolfan ddata anferth ar lan y Fenai
Mae lluniau cyntaf o ddyluniad canolfan ddata anferth ar lan y Fenai yng Ngwynedd yn dangos union faint y datblygiad.
Fe fyddai'r ganolfan newydd o faint sylweddol iawn, gydag arwynebedd o 3,556,826.56 o droedfeddi sgwâr (41 hectar) petai'r cynllun yn derbyn caniatâd cynllunio.
Byddai'r adeilad uchaf o fewn y safle yn dros 30 metr o uchder, ac fe fyddai'n defnyddio 11,949,120 litr o ddŵr y diwrnod.
5.7 miliwn o litrau o ddisel y flwyddyn fyddai ei angen i redeg y ganolfan, yn ôl Asesiad Effaith Amgylcheddol y datblygwyr sydd wedi ei gyhoeddi ar wefan Cyngor Gwynedd yr wythnos hon.
Byddai hyd at chwech o adeiladau ar y safle i gyd, a phob un wedi eu dylunio er mwyn gweddu gyda'r amgylchedd meddai cais y datblygwyr, Gwelyfenai Ltd.
Mae lluniau newydd sydd wedi eu cyflwyno i gydfynd gyda'r cais yn rhoi argraff o faint y datblygiad o ochr draw i'r Fenai ar Ynys Môn.
Bwriad y cynllun yn ôl y datblygwyr yw trawsnewid ac adfywio safle hen ffatri Ferodo sydd wedi mynd â’i phen iddi ers tro ar gyrion Caernarfon.
Fel rhan o'r cais cynllunio, cafodd dogfen Datganiad Dylunio a Mynediad ei chyflwyno i'r cyngor.
Mae'r ddogfen honno yn nodi fod canolfannau data yn cael ei dylunio "i gartrefu seilwaith digidol sefydliad yn ddiogel."
"Yn syml, warws ydyw sy'n cartrefu seilwaith TG a thelathrebu ar ffurf raciau o weinyddion cyfrifiadurol.
"Mae faint o ddata sy'n cael ei gynhyrchu ac sydd angen ei storio yn cynyddu'n gyflym, wedi'i ysgogi gan y trawsnewid yn y ffordd y mae pobl yn rhyngweithio, a rôl technoleg mewn gweithgareddau personol, llywodraethol a busnes."
Ychwanegodd y datganiad fod twf sylweddol yn y galw am ganolfannau data, a hynny "wedi'i ysgogi gan anghenion fel Deallusrwydd Artiffisial a gwasanaethau digidol uwch."
"Er mwyn cyflawni ei rôl fel canolfan ddata, bydd angen i'r adeilad gartrefu gwasanaethau cyfrifiadurol - fel arfer o fewn neuaddau data mawr - ynghyd â'r offer hanfodol cysylltiedig sy'n galluogi ac yn cefnogi'r brif swyddogaeth o storio data."
Cafodd cais cynllunio blaenorol ar gyfer parc gwyliau ar y safle ei wrthod.
"Bydd yn cael ei reoli a’i bweru’n gynaliadwy yn rhannol gan ffynonellau adnewyddadwy lleol, gan helpu i ddefnyddio a chadw ynni Gogledd Cymru", meddai'r datblygwyr ar wefan Canolfan Ddata Menai.
Yn ôl gwaith ymchwil gan yr Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg, Cymru oedd gyda’r capasiti canolfannau data uchaf y tu allan i Lundain ym Mhrydain yn 2024, gyda chapasiti o 154 megawat (MW) yng Nghymru a 1,048 MW yn Llundain.
Mae nifer y canolfannau data yn tyfu'n gyflym yng Nghymru gyda nifer o ddatblygiadau wedi'u cynllunio ar hyd a lled y wlad.
Mae dadansoddiad diweddar gan DESNZ dangos bod defnydd trydan canolfannau data yn ne-orllewin Lloegr a Chymru wedi dyblu rhwng 2020 a 2024.
Ond nid pawb sydd wedi croesawu'r datblygiadau mawr hyn ym myd technoleg.
Dywed elusen amgylcheddol Friends of the Earth fod uchelgais y Deyrnas Unedig "i fod yn arweinydd byd-eang mewn deallusrwydd artiffisial ac yn gyrchfan flaenllaw i fusnesau technoleg ar hyn o bryd yn creu tensiwn uniongyrchol gyda'i hymrwymiadau Net Sero a'r heriau prinder dŵr presennol.
"Mae twf deallusrwydd artiffisial heb ei reoli yn peryglu tanseilio amcanion cynaliadwyedd ehangach."
Ychwanegodd yr elusen fod angen i'r llywodraeth ei gwneud yn ofynnol i berchnogion canolfannau data gyflwyno adroddiadau blynyddol gorfodol sy'n manylu ar y gymysgedd ynni (y cydbwysedd rhwng ynni adnewyddadwy ac ynni tanwydd ffosil); effeithlonrwydd ynni; defnyddio a thynnu dŵr, ac ailddefnyddio offer ac ailgylchu gwastraff trydan.
