Aelodau'r Senedd i bleidleisio ar basys Covid-19
Fe fydd y bleidlais dros gyflwyno pasys Covid-19 yn cymryd lle yn y Senedd ddydd Mawrth.
Os bydd y Senedd yn pasio cynigion Llywodraeth Cymru, bydd rheol pasys Covid-19 yn dod i rym yng Nghymru ar 11 Hydref.
Fe fydd y pàs yn orfodol i unrhyw un dros 18 oed sydd am fynd i glybiau nos, digwyddiad lle mae angen sefyll tu fewn ar gyfer mwy na 500 o bobl, digwyddiad lle mae angen sefyll tu allan ar gyfer mwy na 4,000 o bobl, ac unrhyw ddigwyddiad sy'n cynnwys dros 10,000 o bobl, gan gynnwys digwyddiadau chwaraeon.
Daw hyn ar ôl i Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed Powys, Dafydd Llywelyn, ddweud nad yw plismona’r pàs Covid-19 yn "flaenoriaeth" i’r heddlu dros droseddau difrifol.
Darllenwch y stori'n llawn yma.