Dominic Raab i 'drawsnewid' sut mae'r system gyfiawnder yn delio â thrais yn erbyn menywod
Mae Dominic Raab wedi addo "trawsnewid" sut mae'r system gyfiawnder yn delio â thrais yn erbyn menywod, yn ôl Sky News.
Bu'r Ysgrifennydd Cyfiawnder yn annerch cynhadledd y Ceidwadwyr ym Manceinion ddydd Mawrth.
Yn ei araith, roedd Mr Raab yn cydnabod effaith dwys llofruddiaeth megis rhai Sarah Everard a Sabina Nessa, a dweud y bydd yn "cymryd Cod Dioddefwyr" a "thrawsnewid y canllawiau hynny'n gyfraith, gan sicrhau bod pob un llais yn cael ei glywed ym mhob achos".
Mae’r Cod Dioddefwyr yn canolbwyntio ar hawliau dioddefwyr ac mae’n pennu’r safon ofynnol y mae’n rhaid i sefydliadau ei ddarparu i ddioddefwyr troseddau.
Ychwanegodd Dominic Raab y bydd Llywodraeth San Steffan hefyd yn buddsoddi £30 miliwn i "wneud strydoedd yn fwy diogel yn y nos" ac i gyflwyno llinell gymorth 24/7 ar gyfer trais.
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: Prif Weinidog y DU