Mam a thad wedi gadael i’w merch ‘bylu i ddim’
Fe fydd mam a thad yn cael eu dedfrydu ddydd Iau ar ôl gadael i’w merch a fu farw “bylu i ddim”.
Fe gafodd Steffie Davies, 32 oed, ei chanfod yn farw gan barafeddygon a gafodd eu galw i’w chartref yn Wrecsam ym mis Mai 2023.
Cyfaddefodd ei rhieni, Alan a Bernita Davies - y ddau yn 60 oed - eu bod wedi achosi neu ganiatáu marwolaeth eu merch, oedd yn dioddef o orbryder ac yn gadael y tŷ yn anaml iawn.
Roedd Ms Davies bron yn “groen a chnawd”, ac ni fyddai wedi gallu bwyta neu yfed heb gymorth, clywodd Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Mercher.
Daeth patholegydd i'r casgliad fod Ms Davies, oedd yn pwyso pum stôn a naw pwys, wedi marw o sepsis oherwydd briwiau heintiedig, a diffyg maeth.
Dywedodd Andrew Jones KC, ar ran yr erlyniad, fod ei gwallt yn frwnt, heintiau ffwngaidd posib ar ei chroen, a bod y gwely y cafwyd hyd iddi ynddo yn “wlyb drwyddo”.
Dywedodd Mr Jones fod ei hystafell wely ar lawr gwaelod y tŷ mewn “cyflwr erchyll”, mewn “cyferbyniad llwyr” â glendid gweddill y cartref.
Mewn datganiad, dywedodd chwaer Ms Davies ei bod wedi dangos potensial yn y coleg, lle bu’n astudio gofal anifeiliaid, ond fod ei gorbryder wedi gwaethygu wrth iddi fynd yn hŷn a’i bod yn ei chael hi’n anodd gadael y tŷ.
Dywedodd y chwaer hŷn, na chafodd ei henwi yn y llys ac a oedd wedi ymddieithrio oddi wrth ei rhieni ers nifer o flynyddoedd: “Gyda’r gefnogaeth a’r anogaeth iawn gan fy mam a’m tad, gallai hi fod wedi gwneud cymaint gyda’i bywyd.
“Yn lle hynny, cafodd hi ei gadael i bylu i ddim yn y ffordd fwyaf annynol bosib. Fydd yr un ddedfryd yn gallu gwneud iawn am hynny.”
Ni ddangoswyd lluniau gofidus o’i hanafiadau yn y llys ar ôl i Mrs Justice Stacey ddweud ei bod am “gadw, os yn bosib, rywfaint o urddas Steffie mewn marwolaeth”.
Clywodd y llys recordiad o’r alwad 999 a wnaed gan Mrs Davies i roi gwybod am farwolaeth ei merch tua 8.30am ar 26 Mai 2023.
Roedd modd clywed Mrs Davies yn crio yn ystod yr alwad, wrth iddi ddweud bod ei merch yn “oer” ac “fel sgerbwd”.
Dywedodd Mr Jones fod Mrs Davies wedi dweud wrth swyddogion ei bod wedi gofalu am ei merch am 21.00 ar 24 Mai 2023, pan oedd hi yn y gwely yn darllen, a’i bod wedi edrych ar ei hôl nifer o weithiau y diwrnod canlynol pan oedd yn ymddangos fel petai’n cysgu, cyn dod o hyd iddi’n farw ar 26 Mai.
“Yn ôl pob tebyg, roedd hi wedi bod yn farw ymhell cyn hynny,” meddai Mr Jones.
Clywodd y llys nad oedd yn bosib sefydlu yn union pryd y bu farw Ms Davies, ond yn ôl arbenigwr roedd wlserau ar ei chorff wedi bod yno am o leiaf chwe wythnos.