Cip olwg ar benawdau'r bore
Bore da gan dîm Newyddion S4C.
Dyma olwg ar rai o brif straeon y gwasanaeth ar fore Gwener, 1 Hydref, o Gymru a thu hwnt.
‘Angen i'r heddlu flaenoriaethu trais yn erbyn menywod fel mater o frys’ – The Guardian
Dylai heddluoedd gael eu gorfodi i ddelio â thrais yn erbyn menywod a merched gan ddefnyddio'r un lefel o adnoddau â therfysgaeth neu droseddau cyfundrefnol, meddai Comisiynydd Dioddefwyr Cymru a Lloegr.
Deddf newydd i roi ‘mwy o hyder’ i bobl sy’n byw ag alergedd bwyd
Mae cyfreithiau labelu bwyd sydd wedi ei becynnu’n barod yn newid o ddydd Gwener. Bydd y rheolau newydd yn golygu bod yn rhaid i bob busnes sy’n pecynnu bwyd o flaen llaw restru holl gynhwysion a gwybodaeth am unrhyw alergenau ar y cynnyrch.
Pryder am gynllun posib i ehangu chwarel yn Ninbych
Mae pryderon wedi codi yn nhref Dinbych am gynllun posib i ymestyn chwarel leol. Er nad oes cais cynllunio swyddogol wedi’i gyflwyno eto, mae pryder am effaith unrhyw ddatblygiad ar lwybrau cerdded poblogaidd a thir sydd yn cael ei ddefnyddio gan gerddwyr.
Argyfwng ynni: Rhybudd am dlodi tanwydd wrth i'r cap prisiau godi - Sky News
Mae cynnydd o 12% yn y cap ar brisiau ynni wedi dod i rym ddydd Gwener, wrth i rai o fewn y diwydiant rybuddio y bydd cynnydd pellach yn anochel yn y misoedd i ddod mewn cyfnod o "anhrefn" i'r economi ehangach.
Hanes pobl ddu i ddod yn ‘rhan orfodol’ o’r cwricwlwm newydd
Fe fydd addysgu plant am hanes a phrofiadau pobl dduon, Asiaidd ac ethnig lleiafrifol yn dod yn rhan orfodol o gwricwlwm ysgolion yng Nghymru medd y llywodraeth.Mae’r cyhoeddiad yn cael ei wneud ar drothwy dechrau mis Hanes Pobl Dduon.
Dilynwch y diweddaraf ar wasanaeth Newyddion S4C drwy gydol y dydd.