Newyddion S4C

'Angen i'r heddlu flaenoriaethu trais yn erbyn menywod fel mater o frys'

The Guardian 01/10/2021
Sarah Everard

Dylai heddluoedd gael eu gorfodi i ddelio â thrais yn erbyn menywod a merched gan ddefnyddio'r un lefel o adnoddau â therfysgaeth neu droseddau cyfundrefnol, meddai Comisiynydd Dioddefwyr Cymru a Lloegr.

Yn dilyn dedfryd gydol-oes llofrudd Sarah Everad ddydd Iau, dywedodd ymgyrchwyr bod diffyg gweithredu ar y mater yn achosi rhwystredigaeth cynyddol.

Dywedodd Vera Baird, Comisiynydd Dioddefwyr Cymru a Lloegr, y dylid gwneud trais yn erbyn menywod a merched yn ddisgwyliad strategol ar blismona er mwyn cyfeirio adnoddau ychwanegol i'r mater.

“Mae yna lawer o gwestiynau heb eu hateb ynglŷn â sut mae trais yn erbyn menywod a merched yn cael ei blismona a dwi’n meddwl byddai gofyniad clir yn anfon neges glir bod mynd i’r afael ag ef yn flaenoriaeth.”

Yn ôl y prosiect Counting Dead Women, cafodd 80 o ferched eu lladd rhwng marwolaethau Sarah Everard ym mis Mawrth a'r athrawes o Lundain, Sabina Nessa ar 17 Medi eleni.

Cafodd Ms Everard, oedd yn 33, ei llofruddio gan y cyn-heddwas Wayne Couzens ym mis Mawrth 2020.

Dywedodd ymgyrchwyr fod ymdeimlad cynyddol o ddicter a rhwystredigaeth nad oedd addewidion o newid yn arwain at fwy o ddiogelwch i fenywod.

Dywedodd Farah Nazeer, prif weithredwr Women’s Aid, y byddai ymchwiliad cyhoeddus i drais dynion yn erbyn menywod a merched yn debygol o ddatgelu methiannau yn y sefydliad a’r llywodraeth ond ei fod yn annhebygol o arwain at y camau sydd eu hangen.

“Rydyn ni i gyd yn gwybod beth sydd angen ei wneud. Ond gan ei wneud yn fater o flaenoriaeth, dewis blaenoriaethu cyllid i'r maes hwn, dewis gwneud y newid diwylliannol hwnnw - mae'r rhain yn ddewisiadau gwleidyddol nad ydym yn eu gwneud, " meddai Ms Nazeer.

Darllenwch y stori’n llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.