Deddf newydd i roi ‘mwy o hyder’ i bobl sy’n byw ag alergedd bwyd

Deddf newydd i roi ‘mwy o hyder’ i bobl sy’n byw ag alergedd bwyd

NS4C 01/10/2021

Mae cyfreithiau labelu bwyd sydd wedi ei becynnu’n barod yn newid o ddydd Gwener.

Enw’r ddeddf newydd yw ‘Cyfraith Natasha’ yn dilyn marwolaeth Natasha Laperouse, merch 15 oed oedd yn byw ag alergedd, yn 2016.

Bydd y rheolau newydd yn golygu bod yn rhaid i bob busnes sy’n pecynnu bwyd o flaen llaw restru holl gynhwysion a gwybodaeth am unrhyw alergenau ar y cynnyrch.

Daw hyn ar ôl i Ms Laperouse fwyta brechdan oedd yn cynnwys hadau sesame heb yn wybod iddi.

‘Byw gydag alergedd yn anodd’

Mae Anna Mared Hughes, sy’n 22 oed ac o Landwrog yng Ngwynedd, yn byw gydag alergedd difrifol at gnau.

Dywedodd Anna wrth Newyddion S4C bod byw gydag alergedd “yn anodd”, yn enwedig pan yn bwyta mewn bwyty neu gaffi.

Ychwanegodd: “Bob tro dw i’n mynd allan am fwyd neu’n prynu bwyd yn rwla, ma ‘na elfen o risg yn bodoli.

“Mae ‘na gyfrifoldeb ar nid jyst fi, ond y bobl sydd yn paratoi’r bwyd ‘ma.”

Mae Anna wedi dioddef sawl adwaith ar ôl bwyta rhywbeth oedd yn cynnwys cnau cyn iddi gael diagnosis swyddogol yn 2019.

“Y cwestiwn dwi’n sylweddoli sy’n dod i fyny lot yn ddiweddar ydy ‘how severe is your allergy?’,” meddai.

“Ma’r cwestiwn yna yn fy nghorddi i ‘chydig achos ‘sa neb rili wir yn gwbod pa mor ddifrifol ydy alergedd at unrhyw beth tan bod y reaction yn digwydd.”

Dywedodd y bydd y newid yn y gyfraith yn gwneud i bobl sy’n byw ag alergeddau i deimlo’n “fwy cyfforddus”.

“Gobeithio bydd y gyfraith newydd ‘ma wedyn yn gallu rhoi hyder i ni fel pobl sy’n bwyta bwyd wedi ei becynnu’n barod a gwneud ni’n fwy cyfforddus.”

Image
S4C
Elin Wyn Williams, perchennog Deli Bant a la Cart.

 

Ond, yn ôl un busnes o Gaerdydd sy’n gwerthu bwyd wedi ei becynnu’n barod, mae elfennau o’r ddeddf newydd “yn broblematig.”

Dywedodd Elin Wyn Williams, perchennog Deli Bant a la Cart wrth Newyddion S4C: “Achos bo’ ni nawr yn gorfod nodi alergedd cyn i ni rag-becynnu – so unrhyw beth sy’n cael ei becynnu o flaen llaw.

“Falla bo’ ni’n pecynnu un math o flawd wythnos hyn, a mae’n dweud arna fe ‘reit mae ‘na gluten’, fi’n gwbod.

“Wythnos ar ôl ny, falla ‘da ni’n cael bag wahanol  sy’n gweud bod wedi cael ei becynnu mewn ffatri sy’n pecynnu cnau.

“Mae hwnna wrth gwrs yn cael effaith uniongyrchol ar y labelau sydd gyno ni, oherwydd nawr yn hytrach na chael gluten yn unig, mae raid I ni ychwanegu’r cnau.”

Dywedodd Nathan Barnhouse, Cyfarwyddwr yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru wrth Newyddion S4C:

“Bydd y gyfraith hon yn helpu i ddiogelu tua 2 filiwn o bobl yn y DU sydd ag alergedd bwyd – a llawer yn rhagor sydd ag anoddefiad bwyd neu glefyd seliag – fel eu bod yn gallu gwneud dewisiadau mwy diogel am y bwyd maen nhw’n ei brynu.

 “Rwy’n ymwybodol iawn o ba mor heriol mae’r 18 mis diwethaf wedi bod i fusnesau bwyd, a byddwn i’n annog unrhyw berchennog busnes sy’n ansicr o hyd am y newidiadau i fanteisio ar yr adnoddau a’r cyngor sydd ar gael ar wefan yr ASB, a siarad â’u hawdurdod lleol, a fydd yn gallu cynnig cymorth pellach.

“Nid oes angen i’r ateb i labelu fod yn dechnolegol gymhleth nac yn gostus – penderfyniad i berchnogion busnes yw sut y byddant yn dewis cynhyrchu’r labeli, yn seiliedig ar yr hyn sydd orau i’w busnes.”

Dywedodd yr Asiantaeth bod modd defnyddio meddalwedd ac argraffwyr arbenigol er mwyn cynhyrchu labeli, ond bod modd defnyddio labeli sydd wedi eu hysgrifennu.

Mewn datganiad, dywedodd yr ASB: “Mewn sefyllfaoedd lle mae'n ymarferol, gellir defnyddio labeli a ysgrifennwyd â llaw, cyn belled ag y bo’r gofynion o ran eglurder a maint y ffont yn cael eu bodloni.”

Mae’r ddeddf yn dod i rym yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon ddydd Gwener 1 Hydref.