Newyddion S4C

Pryder am gynllun posib i ehangu chwarel yn Ninbych

Newyddion S4C 01/10/2021

Pryder am gynllun posib i ehangu chwarel yn Ninbych

Mae pryderon wedi codi yn nhref Dinbych am gynllun posib i ymestyn chwarel leol. 

Er nad oes cais cynllunio swyddogol wedi’i gyflwyno eto, mae pryder am effaith unrhyw ddatblygiad ar lwybrau cerdded poblogaidd a thir sydd yn cael ei ddefnyddio gan gerddwyr.

Mae Chwarel Dinbych, sydd yn cael ei rhedeg gan gwmni Breedon, yn cynhyrchu cerrig mân.

Bwriad Breedon yw ymestyn y safle, ac ddydd Iau roedd yna gyfle i’r cyhoedd weld eu cynlluniau am y tro cyntaf.

Ond roedd y cwmni yn pwysleisio nad oedd ganddyn nhw gais cynllunio swyddogol i'w gyflwyno eto.

'Colled fawr'

Mae’r cynlluniau posib wedi gadael rhai unigolion y dref yn bryderus am yr effaith ar yr amgylchedd yn lleol.

“Dwi ddim yn dalld sut maen nhw’n cymryd chunk o’r cae,” dywedodd Ellie Lillie wrth raglen Newyddion S4C.

“Lle ‘da ni fod i fynd? Achos fydden ni’n mynd fyny’r goedwig – mae gennym ni camps yn y goedwig, ‘da ni’n mynd yma am dân a chinio. 

Fydd o jyst yn golled mawr.”

Ychwanegodd Mair Jones, sydd hefyd o’r dref: “Fe fydd y lludw yn fwy a fydd yn effeithio ar fwy o bobol achos fydd y chwarel lot agosach i’r tai fan’cw.

“Mae'r Cyngor Sir wedi datgan ‘climate emergency’, gobeithio bydd y cynghorwyr ar y pwyllgor cynllunio yn ystyried be’ maen nhw’n deud yn fanna.

“Mae’r coed yn mynd i gael eu torri lawr – mae Breedon yn deud naw nhw blannu rhai newydd ond sori mae’r ‘climate emergency’ yn digwydd rŵan.”

Nid oedd cwmni Breedon am wneud sylw ar y mater.

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi dweud y bydden nhw'n gofyn am farn y cyhoedd os daw cais cynllunio i law.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.