Newyddion S4C

Hanes pobl ddu i ddod yn ‘rhan orfodol’ o’r cwricwlwm newydd

01/10/2021
Addysg yng Nghymru

Fe fydd addysgu plant am hanes a phrofiadau pobl dduon, Asiaidd ac ethnig lleiafrifol yn dod yn rhan orfodol o gwricwlwm ysgolion yng Nghymru medd y llywodraeth.

Mae’r cyhoeddiad yn cael ei wneud ar drothwy dechrau mis Hanes Pobl Dduon.

 Cymru fydd y genedl gyntaf yn y DU fabwysiadu’r elfen orfodol o addysgu disgyblion am hanes pobl dduon, Asiaidd ac ethnig lleiafrifol yn fel rhan o’r cwricwlwm, unwaith bydd y penderfyniad yn cael sel bendith y Senedd.

Bydd y cwricwlwm newydd yn cael ei gyflwyno mewn ysgolion o fis Medi 2022.

Daw’r cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru ar ôl ffurfio gweithgor i “wella addysgu am gymunedau Duon, Asiaidd ac ethnig lleiafrifol”, gyda’r gweithgor hefyd yn gweithio i “ddatblygu deunyddiau addysgu a hyfforddiant newydd ar gyfer athrawon”.

Fe dderbyniodd y grŵp, sy’n cael ei arwain gan yr Athro Charlotte Williams OBE, gefnogaeth o £500,000 gan y llywodraeth.

Ymhlith argymhellion y gweithgor i’r llywodraeth oedd “ystyried yr adnoddau addysgu a dysgu Saesneg ynghylch pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol sydd ar gael ar hyn o bryd a sicrhau bod adnoddau addas ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg”.

‘Parchu eu hanes’

Yn ôl Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, mae angen creu system addysg sy’n ehangu dealltwriaeth dysgwyr.

Dywedodd Jeremy Miles AS: “Mae'n hanfodol bwysig bod ein system addysg yn galluogi ein pobl ifanc i ddeall a pharchu eu hanes, eu diwylliannau a'u traddodiadau eu hunain a rhai pobl ifanc eraill.

“Bydd y cyhoeddiad heddiw yn helpu i gyfoethogi’r cwricwlwm newydd, ac felly’r addysgu yng Nghymru am flynyddoedd i ddod.

“Bydd y Cwricwlwm newydd i Gymru yn grymuso athrawon a lleoliadau addysg i gynllunio gwersi i ysbrydoli eu dysgwyr i fod yn ddinasyddion moesegol, gwybodus yng Nghymru a'r byd.

“Os ydyn ni am symud ymlaen fel cymdeithas, rhaid i ni greu system addysg sy’n ehangu ein dealltwriaeth a’n gwybodaeth am y diwylliannau niferus sydd wedi creu gorffennol a phresennol Cymru a’r byd.”

Image
S4C

 

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Hil Cymru: “Mae hwn yn ddiwrnod hanesyddol iawn i Gymru.

“Diwrnod lle mae Cymru yn gosod ei hun yn wlad sydd yn arwain y ffordd I gydraddoldeb.

“Gyda cerlfun Betty Campbell MBE yn cael ei ddadorchuddio ddydd Mercher, rydym yn meddwl beth fyddai hi wedi dweud pe bai hi yma.

“Byddai wedi dweud: ‘Nes i ddechrau’r gwaith yma, anawr mae newid ar fin dechrau drwy gyd-weithio gyda’n gilydd.’

“Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru ac ysgolion ledled Cymru i sicrhau bod y gyfraith yn cael ei gweithredu yn ôl y bwriad.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.