Argyfwng ynni: Rhybudd am dlodi tanwydd wrth i'r cap prisiau godi
Mae cynnydd o 12% yn y cap ar brisiau ynni wedi dod i rym ddydd Gwener, wrth i rai o fewn y diwydiant rybuddio y bydd cynnydd pellach yn anochel yn y misoedd i ddod mewn cyfnod o "anhrefn" i'r economi ehangach.
Bydd y newid mewn prisiau yn effeithio ar fwy na 15 miliwn o gartrefi sydd wedi eu clymu'n gytundebol i ddarparwyr sy’n codi prisiau yn awtomatig, neu gwsmeriaid sydd methu â newid darparwyr i ddewis cynlluniau talu gyda chyfraddau mwy ffafriol.
Mae'r cap yn codi o £139 i £1,277 y flwyddyn, tra bydd cwsmeriaid sy’n rhagdalu yn gweld cynnydd o £153 i £1,309.
Yn ôl Sky News, problemau gyda chyflenwadau byd-eang yn dilyn sgil effaith Covid-19 ar yr economi sydd yn gyfrifol am y cynnydd mewn prisiau ynni.
Awgrymodd data gan y grŵp ymgyrchu End Fuel Poverty Coalition y byddai'r cynnydd yn y cap prisiau yn arwain at y niferoedd sydd mewn tlodi tanwydd yn Lloegr yn codi i amcangyfrif o 4.1 miliwn.
Mae arbenigwyr y diwydiant wedi rhybuddio ei bod yn debygol y bydd cynnydd arall yn cael ei orfodi'r flwyddyn nesaf, pan fydd adolygiad ar brisiau yn cael ei gynnal ym mis Ebrill.
Darllenwch y stori’n llawn yma.