Goleuo strydoedd Caerdydd i ddiogelu merched yn ystod pythefnos y glas

Goleuo strydoedd Caerdydd i ddiogelu merched yn ystod pythefnos y glas
Bydd strydoedd y brifddinas yn cael eu goleuo er mwyn diogelu merched yn ystod pythefnos y glas.
Mae ymgyrch FOR A Safer Cardiff wedi gosod hysbysfyrddau digidol ar hyd strydoedd Caerdydd i’w gwneud yn fannau mwy diogel.
Daw hyn ddyddiau ar ôl i ferch 16 oed ddioddef “ymosodiad rhyw difrifol” yn y brifddinas.
Mae’r ymgyrch wedi ei sefydlu ar ôl i adroddiad diweddar ddangos bod 80% o fenywod yn y DU yn dweud eu bod wedi profi aflonyddu rhyw mewn mannau cyhoeddus.
Bydd rhai o’r hysbysfyrddiau digidol i’w gweld ar hyd Heol y Plwca (City Road), Ffordd y Gogledd a Ffordd Tresilian gyda chôd QR i ap ‘Safe Places’ lle gall pobl ddod o hyd i fan diogel cyfagos.
Dywedodd FOR Cardiff eu bod yn galw ar fusnesau ar draws y ddinas i gyd-weithio a chreu rhwydwaith o fannau diogel.
“Mae’r cynllun yn annog pob busnes, boed yn rhan o’r economi yn ystod y dydd neu’r nos, i ddarparu cefnogaeth i unrhyw un sy’n teimlo’n anniogel – nid dim ond menywod – gyda gwên, rhywun i siarad â nhw.”
Ychwanegodd y prif weithredwr Adrian Field: “Ein huchelgais yw gwneud Caerdydd yn ddinas lle gall menywod deimlo’n ddiogel wrth gerdded trwy’r brifddinas, yn y nos ac yn y dydd.
“Ry’n ni’n credu bod gan Gymru a’r brifddinas gyfrifoldeb i arwain y ffordd wrth greu amgylchedd diogel i fenywod yn y ddinas.”
Bydd yr ymgyrch yn para rhwng 21 Medi a 4 Hydref.
Llun: David Blaikie drwy Flickr