Arestio dyn yn dilyn ‘ymosodiad rhyw difrifol’ yng Nghaerdydd
20/09/2021
Mae dyn 19 oed wedi cael ei arestio mewn cysylltiad ag ymosodiad rhyw "difrifol" ar ferch 16 oed yng Nghaerdydd dros y penwythnos.
Fe gafodd y dyn o ardal Pen-y-lan ei arestio nos Sul, ac mae’n parhau yn y ddalfa.
Mae’r heddlu yn parhau i ymchwilio yn dilyn y digwyddiad yn ardal Stryd Sandon a Stryd Adam a ddigwyddodd ychydig cyn 23:00 nos Sadwrn.
Mae’r ferch 16 oed wedi’i rhyddhau o Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, yn dilyn triniaeth ac mae’n parhau i gael cefnogaeth ei theulu a swyddogion sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig.
Mae Heddlu’r De yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â’r llu gan ddyfynnu rhif cyfeirnod *330151.