Cipolwg ar benawdau'r bore

21/09/2021
Y Penawdau [NS4C]
NS4C

Bore da gan dîm Newyddion S4C.

Dyma ein prif straeon ar fore dydd Mawrth, 21 Medi, o Gymru a thu hwnt.

Pryderon am ddyfodol cwmnïau ynni wrth i'r cap ar brisiau nwy aros yn ei le

Mae’r pryderon yn parhau dros ddyfodol nifer o gwmnïau ynni y Deyrnas Unedig yn sgil cynnydd mewn costau nwy. Mae prisiau cyfanwerthol nwy wedi cynyddu 250% ers mis Ionawr, gyda nifer o gwmniau bychan yn mynd i'r wal o ganlyniad, ac mae pryderon pellach y gallai mwy ddilyn. Mewn cyfarfod brys gyda'r diwydiant ddydd Llun, mi "fynnodd" Gweinidog Busnes Llywodraeth y DU Kwasi Kwarteng bod angen i’r cap ar brisiau nwy aros yn ei le, yn ôl Sky News.

Gwybodaeth am gyfieithwyr Afghanistan wedi ei rannu gan y Weinyddiaeth Amddiffyn

Mae data dwsinau o gyfieithwyr Affganaidd oedd yn gweithio i luoedd Prydain wedi cael ei rannu gan y Weinyddiaeth Amddiffyn. Cafodd mwy na 250 o gyn-weithwyr oedd yn ceisio ffoi i’r DU eu copïo mewn e-bost gan y Weinyddiaeth Amddiffyn yn gofyn am ddiweddariad ar eu sefyllfa, yn ôl The Independent. 

Arian ychwanegol i barhau gyda chynlluniau amaethyddol hyd at 2023

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd mwy na £66 miliwn ar gael er mwyn parhau â nifer o gynlluniaeth amaethyddol hyd at ddiwedd 2021. Bydd cytundebau cynlluniau Glastir Uwch, Tir Comin ac Organig yn cael eu hymestyn tan ddiwedd mis Rhagfyr 2023. Ar hyn o bryd, mae dros 1.3 miliwn hectar o dir amaethyddol Cymru o dan gytundeb Glastir - sef cymorth ariannol ar gyfer rheoli tir ffermydd.

Cwpan y Byd Merched 2023: Cymru’n herio Estonia

Fe fydd tîm merched Cymru yn wynebu Estonia yn ninas Pärnu ddydd Mawrth yn eu hymgyrch ragbrofol ar gyfer Cwpan y Byd 2023. Mae’r gêm yn dilyn eu buddugoliaeth yn erbyn Kazakhstan nos Wener, gyda thîm Gemma Grainger yn llwyddo i ennill o chwe gôl i ddim.

Troi clwb cymdeithasol yng Nghaernarfon yn llety gwyliau

Mae cynlluniau i droi heb glwb cymdeithasol yng Nghaernarfon yn llety gwyliau wedi cael eu cymeradwyo gan Gyngor Gwynedd. Cafodd Clwb Canol Dre ei roi ar werth y llynedd a’r cynllun nawr yw ei droi’n “llety gwyliau hunan-arlwyo o safon uchel,” yn ôl North Wales Live. Yn adeilad rhestredig Gradd II, roedd yn lleoliad poblogaidd ar gyfer nosweithiau adloniant a digwyddiadau amrywiol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.