Troi clwb cymdeithasol yng Nghaernarfon yn llety gwyliau
21/09/2021
Mae cynlluniau i droi hen glwb cymdeithasol yng Nghaernarfon yn llety gwyliau wedi cael eu cymeradwyo gan Gyngor Gwynedd.
Cafodd Clwb Canol Dre ei roi ar werth y llynedd a’r cynllun nawr yw ei droi’n “llety gwyliau hunan-arlwyo o safon uchel,” yn ôl North Wales Live.
Yn adeilad rhestredig Gradd II, roedd yn lleoliad poblogaidd ar gyfer nosweithiau adloniant a digwyddiadau amrywiol.
Dywedodd y cwmni cynllunio Cosgrove Renovations Ltd: “Gan nad oes unrhyw nodweddion gwreiddiol o’r adeilad ar ôl, does dim hanes yn mynd i gael ei golli trwy’r cynllun.”
Darllenwch y stori’n llawn yma.
Llun: Google