Pryderon am ddyfodol cwmnïau ynni wrth i'r cap ar brisiau nwy aros yn ei le
Mae’r pryderon yn parhau dros ddyfodol nifer o gwmnïau ynni y Deyrnas Unedig yn sgil cynnydd mewn costau nwy.
Mae prisiau cyfanwerthol nwy wedi cynyddu 250% ers mis Ionawr, gyda nifer o gwmniau bychan yn mynd i'r wal o ganlyniad, ac mae pryderon pellach y gallai mwy ddilyn.
Mewn cyfarfod brys gyda'r diwydiant ddydd Llun, mi "fynnodd" Gweinidog Busnes Llywodraeth y DU Kwasi Kwarteng bod angen i’r cap ar brisiau nwy aros yn ei le, yn ôl Sky News.
Fe adroddodd bapur newydd y Daily Telegraph fod rhai o'r busnesau oedd yn bresennol yn y cyfarfod wedi galw am ddiddymu'r cap.
Ond yn dilyn y cyfarfod dywedodd Mr Kwarteng a phrif weithredwr Ofgem, Jonathan Brearley, mewn datganiad ar y cyd: "Yn ganolog i unrhyw gamau, rydym wedi cytuno y bydd y cap ar bris ynni yn aros yn ei le.”
Mae rhai dadansoddwyr wedi rhagweld y gallai nifer cwmnïoedd ynni’r DU leihau yn sylweddol dros y misoedd nesaf, gan adael dim on 10 ar ôl, os yw’r sefyllfa bresennol yn parhau.
Darllenwch y stori’n llawn yma.