Gwybodaeth am gyfieithwyr Afghanistan wedi ei rannu gan y Weinyddiaeth Amddiffyn
21/09/2021
Mae data dwsinau o gyfieithwyr Affganaidd oedd yn gweithio i luoedd Prydain wedi cael ei rannu gan y Weinyddiaeth Amddiffyn.
Cafodd mwy na 250 o gyn-weithwyr oedd yn ceisio ffoi i’r DU eu copïo mewn e-bost gan y Weinyddiaeth Amddiffyn yn gofyn am ddiweddariad ar eu sefyllfa, yn ôl The Independent.
Dywedodd John Healey AS, Ysgrifennydd Amddiffyn Cysgodol Llafur bod hyn wedi "rhoi bywydau mewn risg yn ddiangen".
Mae llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn wedi ymddiheuro i'r rhai sydd wedi'u heffeithio ac wedi cadarnhau fod ymchwiliad wedi cael ei lansio.
Darllenwch y stori’n llawn yma.
Llun: Sgt Wes Calder drwy Flickr