Cyngor Sir Gâr ddim yn gallu hawlio’n ôl £4.2m o gostau annisgwyl wrth ddatblygu hen siop Debenhams
Ni fydd Cyngor Sir Gâr yn gallu hawlio’n ôl y £4.2m y mae’n ei wario i ddatrys problemau annisgwyl yn hen siop Debenhams.
Dywedodd y Cynghorydd Alun Lenny, aelod cabinet dros adnoddau, fod y cwmni a adeiladodd y siop yng Nghaerfyrddin wedi rhoi’r gorau i fasnachu ac nad oedd y warant ar y gwaith adeiladu bellach yn ddilys.
Mae’r cyngor y tu ôl i brosiect i drawsnewid yr adeilad yn ganolfan iechyd a hamdden o’r enw Atriwm a fydd yn costio £41m.
Dywedodd y Cynghorydd Lenny, pan ofynnwyd iddo gan gynghorydd am sicrwydd na fyddai’r gost yn cynyddu, ei fod yn hyderus bod y £41m yn ddigon i ariannu'r prosiect yn ei gyfanrwydd.
Mae’r cyngor, sy’n cael ei arwain gan Blaid Cymru ac aelodau annibynnol, wedi dweud yn flaenorol fod problemau strwythurol annisgwyl wedi dod i’r amlwg yn ystod y gwaith o drawsnewid yr adeilad, a fu’n siop Debenhams tan iddi gau yn 2021.
Y mis diwethaf, dywedodd y cyngor y byddai disgwyl i gost datrys y problemau hynny fod yn £4.2m.
Wrth siarad mewn cyfarfod o’r cyngor llawn, dywedodd arweinydd yr wrthblaid Lafur, y Cynghorydd Deryk Cundy, fod cost y prosiect wedi codi o £19.6m yn wreiddiol, a gofynnodd a oedd modd hawlio'r gorwariant annisgwyl o £4.2m yn ôl.
Dywedodd y Cynghorydd Lenny fod y ffigwr gwreiddiol o £19.6m wedi’i seilio ar ddyluniad cychwynnol fel rhan o gais am gyllid i Lywodraeth y DU.
Cafodd y cynllun ei ehangu wedyn yn dilyn gwaith dylunio pellach, meddai, i gynnwys canolfan weithgareddau a gwasanaethau iechyd ychwanegol.
Roedd hynny, meddai, yn golygu bod angen gosodiadau mecanyddol a thrydanol gwell er mwyn cyrraedd safonau clinigol.
Dywedodd y Cynghorydd Lenny fod cyllid allanol ychwanegol wedi’i sicrhau a bod y prosiect wedi wynebu chwyddiant yn y sector adeiladu ar ôl y pandemig.
Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn defnyddio gofod yn Atriwm, ynghyd â’r cyngor.
Mae disgwyl i’r ganolfan fod yn barod yn gynnar y flwyddyn nesaf.
'Budd cymdeithasol ac economaidd mawr'
Dywedodd y Cynghorydd Lenny: "Rwyf eisoes wedi gweld y clinigau, yr ystafelloedd therapi a’r unedau deintyddol wedi’u gosod allan i’r safon uchaf.
"Bydd Atriwm yn gyfleuster meddygol a hamdden heb ei ail mewn unrhyw ganol tref arall yng Nghymru, gan ddod â budd cymdeithasol ac economaidd mawr i dref Caerfyrddin a’r ardal ehangach."
Ychwanegodd nad oedd arolwg annibynnol o’r adeilad ar ddechrau’r prosiect wedi nodi unrhyw broblemau strwythurol sylweddol, ar wahân i gyflwr y to.
Dim ond yn ystod y gwaith adnewyddu, pan agorwyd rhannau o’r adeilad, y daeth problemau pellach i’r amlwg, meddai.
O ganlyniad, bu’n rhaid ailadeiladu wal allanol yr adeilad.
Dywedodd y Cynghorydd Lenny y byddai’r hen siop wedi mynd i gyflwr adfeiledig heb ymyrraeth y cyngor, a bod y cyngor yn parhau i geisio gweld a oes modd lleihau’r gost ychwanegol i’r awdurdod.
Dywedodd y Cynghorydd Cundy ei fod yn deall nad oedd modd rhagweld y problemau, ond bod y gwariant ychwanegol yn ymddangos fel "swm aruthrol o arian" a allai fod wedi cael ei wario mewn mannau eraill.
Gofynnodd i’r Cynghorydd Lenny am sicrwydd na fyddai cost o £41m y prosiect - sy’n cael ei rhannu rhwng Llywodraeth y DU (£20.19m), y cyngor (£11.45m), Llywodraeth Cymru (£9m), a chyfraniadau gan bartneriaid o ychydig dros £300,000 - yn cael ei rhagori.
"Rwy’n hyderus bod y gyllideb ddiwygiedig yn adlewyrchu’n llawn maint y prosiect sy’n cael ei gyflawni bellach," meddai'r Cynghorydd Lenny, gan ychwanegu ei fod yn cynnig gwerth am arian.