'Gyda chalon drom': Diwedd cyfnod i ddwy ysgol gynradd yng Ngwynedd ar Nos Galan
Cafodd camau olaf yn y broses i gau dwy ysgol gynradd yng Ngwynedd eu cadarnhau yn ystod cyfarfod o gabinet Cyngor Gwynedd yng Nghaernarfon yn gynharach yr wythnos hon.
Gyda "chalon drom" fe gytunodd cabinet y cyngor i gadarnhau'r cynnig terfynol i gau Ysgol Baladeulyn ac Ysgol Nebo ar 31 Rhagfyr eleni.
Bydd disgyblion Ysgol Baladeulyn yn symud i Ysgol Talysarn a phlant Ysgol Nebo yn symud i Ysgol Llanllyfni, gyda'r newid yn dod i rym o 1 Ionawr 2027 ymlaen.
Dywedodd arweinydd y cyngor, y Cynghorydd Nia Jeffreys, fod y ddau benderfyniad wedi bod yn "anodd iawn" ac wedi cael eu hystyried "gyda chalon drom".
Dywedodd aelod y Cabinet dros addysg, y Cynghorydd Dewi Jones, fod y penderfyniad i gau ysgolion yn "broses hir" ac, ar adegau, yn un "boenus".
Cytunodd y cabinet i dderbyn adroddiad gwrthwynebiadau, sef crynodeb o wrthwynebiadau statudol, yn y cyfarfod ddydd Mawrth.
Roedd y ddwy ysgol wedi dioddef oherwydd gostyngiad yn nifer y disgyblion; ym mis Ionawr 2026, roedd 12 disgybl yn Ysgol Nebo, tra bod wyth yn unig yn Ysgol Baladeulyn.
Roedd y gost gyfartalog fesul disgybl yn Ysgol Nebo ar gyfer blwyddyn ariannol 2026-27 yn £16,066 ac yn Ysgol Baladeulyn yn £25,123 - o'i gymharu â chyfartaledd y sir o £5,998.
Roedd y cynlluniau i gau'r ysgolion wedi ysgogi gwrthwynebiad cryf gan gymunedau Nantlle a Nebo.