Newyddion S4C

Cwpan y Byd Merched 2023: Cymru’n herio Estonia

21/09/2021
Cwpan y Byd 2023

Fe fydd tîm merched Cymru yn wynebu Estonia yn ninas Pärnu ddydd Mawrth yn eu hymgyrch ragbrofol ar gyfer Cwpan y Byd 2023.

Mae’r gêm yn dilyn eu buddugoliaeth yn erbyn Kazakhstan nos Wener, gyda thîm Gemma Grainger yn llwyddo i ennill o chwe gôl i ddim.

Mewn datganiad cyn y gêm, dywedodd y rheolwraig, Gemma Grainger, fod y tîm yn “canolbwyntio ar greu cyfleoedd”.

“Yn erbyn Kazakhstan, fe wnaethom ni greu llawer iawn o gyfleoedd,” dywedodd.

“Rydym am barhau i ddatblygu ein dull o chwarae mewn meddiant.

“Ar ddiwedd y dydd, mae hyn er mwyn galluogi ein chwaraewyr i fynegi eu hunain ac yn chwarae i’w cryfderau.

“Mae rhaid i ni fynd i bob un gêm a chyflawni ein cynllun.

“Rydym yn canolbwyntio ar y broses a’r perfformiad, oherwydd os mae hynny’n gywir, yna byddwn yn cystadlu ac yn gymwys i twrnament mawr."

Llun: Asiantaeth luniau Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.