'Arwyddion cryf' fod Iran yn rhan o gynllwyn ger RAF Fairford, medd Burnham
Mae Prif Weinidog y DU wedi dweud bod 'na “arwyddion cryf” fod Iran wedi chwarae rhan mewn cynllwyn sy'n cael ei amau o fod yn un terfysgol ger RAF Fairford yn ne-orllewin Lloegr.
Dywedodd Andy Burnham fod y DU yn gweithio’n agos gyda’r Unol Daleithiau a bod y sefyllfa “dan reolaeth dynn iawn” yr awdurdodau.
Daw ei sylwadau ar ôl i Arlywydd America, Donald Trump, feirniadu’r penderfyniad i ryddhau’r rhai sy'n cael eu hamau o fod yn rhan o'r cynllwyn.
Cafodd pum dinesydd Prydeinig, pob un yn eu hugeiniau, eu harestio ar amheuaeth o droseddau yn ymwneud â ffrwydron a therfysgaeth ger y ganolfan filwrol dros y penwythnos, cyn cael eu rhyddhau ar fechnïaeth dan ymchwiliad ddydd Llun.
Mae’r safle yn Sir Gaerloyw wedi cael ei ddefnyddio yn ystod y misoedd diwethaf gan awyrennau bomio Americanaidd.
Roedd cyn Brif Weinidog y DU, Syr Keir Starmer, wedi rhoi caniatâd i’r Unol Daleithiau ddefnyddio canolfannau Prydeinig ar gyfer ymosodiadau “amddiffynnol” yn erbyn Iran yn ystod rhyfel y Dwyrain Canol.
Mae'r heddlu wedi dweud bod rhywfaint o betrol, ond dim dyfeisiau ffrwydrol, wedi’u darganfod yn y faniau ger y maes awyr.
Pan ofynnwyd iddo am yr achos mewn cyfres o gyfweliadau ddydd Mercher, dywedodd Mr Burnham: “Mae arwyddion cryf fod Iran wedi chwarae rhan yn yr hyn a ddigwyddodd dros y penwythnos yn RAF Fairford, ond mae’n parhau i fod yn ymchwiliad heddlu cymhleth, difrifol ac un sy'n parhau.”
Pan ofynnwyd iddo am ei ymateb i feirniadaeth Mr Trump, dywedodd wrth y BBC: “Mae’r awdurdodau, fel y dywedais, â hyn dan reolaeth dynn iawn a’r rheolaeth agosaf, a gallaf eich sicrhau o hynny.”
Wrth siarad â Sky News, dywedodd na fyddai’n oedi galw'r Senedd yn ôl pe bai angen oherwydd y digwyddiad.
'Llym'
Fe gadeiriodd Andy Burnham gyfarfod Cobra brys yn ystod cynhadledd y Blaid Lafur yn gynharach yr wythnos hon.
Ddydd Mawrth, dywedodd Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau, Marco Rubio, mewn cyfweliad teledu fod y cynllwyn “yn amlwg yn cynnwys llaw actor tramor”, ond gwrthododd roi rhagor o fanylion.
Dywedodd pennaeth plismona gwrthderfysgaeth y DU, yr is-gomisiynydd Laurence Taylor, ddydd Mawrth fod ymateb gan yr heddlu wedi’i gychwyn yn ystod oriau mân bore ddydd Sul “oherwydd ystod o wybodaeth a gawsom”.
Dywedodd Mr Taylor fod y pum person sydd wedi’u rhyddhau ar fechnïaeth “yn parhau dan ymchwiliad” ac “yn gorfod cadw at amodau llym iawn”.
Cafodd dwsinau o bentrefwyr sy’n byw ger RAF Fairford yn Sir Gaerloyw eu symud o’u cartrefi fore Sul, cyn dychwelyd ddydd Mawrth.
Mae llysgenhadaeth Iran yn Llundain wedi gwadu unrhyw gysylltiad â'r digwyddiadau.
