Comisiynwyr Iaith yn rhybuddio am 'effaith hirdymor' toriadau'r BBC ar ieithoedd lleiafrifol

Comisiynwyr Iaith + BBC

Mae Comisiynydd y Gymraeg a Chomisiynydd yr Wyddeleg yng Ngogledd Iwerddon wedi codi pryder am effaith toriadau’r BBC ar wasanaethau mewn ieithoedd lleiafrifol.

Dywedodd Efa Gruffudd Jones a Pól Deeds fod darlledu yn chwarae rhan bwysig wrth hyrwyddo a gwarchod ieithoedd llai, gan rybuddio am oblygiadau hirdymor unrhyw leihad yn y ddarpariaeth.

Dywedodd y BBC ei fod yn parhau i fod yn “gwbl ymrwymedig” i gefnogi ieithoedd lleiafrifol y DU.

Daw hyn wedi i BBC Cymru gyhoeddi toriadau o tua 45 o swyddi, ynghyd â newidiadau i amserlen Radio Cymru.

Bydd nifer o raglenni’n dod i ben, gan gynnwys Dros Ginio, Dros Frecwast ar ddydd Sadwrn ac Ar y Marc, fel rhan o gynlluniau i arbed £9 miliwn.

Mae Dyfodol i’r Iaith eisoes wedi cyhuddo BBC Cymru o “anwybyddu anghenion cynulleidfa draddodiadol Radio Cymru” wrth wneud y newidiadau.

'Llwyr ddibynnol' ar ddarlledi cyhoeddus

Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Efa Gruffudd Jones, na ddylai penderfyniadau am ddarlledu Cymraeg gael eu seilio ar werth am arian yn unig.

Dywedodd fod darlledu Cymraeg yn rhoi cyfleoedd i bobl glywed a defnyddio’r iaith o ddydd i ddydd, yn ogystal â rhoi llwyfan i ddiwylliant, chwaraeon, adloniant a newyddion yng Nghymru.

“Mae darlledu Cymraeg ei iaith yn llwyr ddibynnol ar wasanaethau darlledu a ariennir gan y pwrs cyhoeddus. O dynnu’r ddarpariaeth hon, fydd yna ddim darpariaeth cyfrwng Cymraeg.

"Nid yw'r un peth yn wir am yr iaith Saesneg. O ganlyniad i hyn mae’n hanfodol peidio ystyried gwerth darlledu cyfrwng Cymraeg ar sail ‘gwerth am arian’ yn unig.

“Rwy’n derbyn yn llwyr fod yna heriau sylweddol yn wynebu’r BBC ac yn sylweddoli fod penderfyniadau anodd i’w gwneud, ond mae angen ystyried yr effaith hirdymor ar ddiwylliant a chost hynny i genedlaethau’r dyfodol.”

Gwyddeleg

Cododd Comisiynydd yr Wyddeleg, Pól Deeds, bryderon tebyg am effaith penderfyniadau’r BBC ar yr iaith yng Ngogledd Iwerddon.

Dywedodd fod darlledu yn yr Wyddeleg yn helpu i sicrhau bod yr iaith yn weladwy ac yn cael ei chlywed a’i defnyddio mewn bywyd bob dydd.

"Rwy'n gwerthfawrogi'r pwysau ariannol sy'n wynebu'r BBC, ond mae'r Wyddeleg eisoes yn wannach na ieithoedd brodorol eraill yn y DU o ran darpariaeth y BBC," meddai.

"Byddwn yn awyddus i bwysleisio bod angen ystyried yn llawn anghenion penodol cynulleidfaoedd lleiafrifol, a'r canlyniadau hirdymor posibl i’r Wyddeleg, pan fydd penderfyniadau am wasanaethau yn cael eu gwneud."

Image
DJ
Mae Ar y Marc ymhlith y rhaglenni fydd yn diflannu o donfeddi BBC Radio Cymru yn sgil toriadau

Mewn ymateb, dywedodd y BBC: "Mae'r BBC yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i gefnogi ieithoedd lleiafrifol y DU – sef y Gymraeg, Gaeleg yr Alban, Gwyddeleg, Albaneg-Ulster, Cernyweg a Manaweg – fel sydd i'w gweld yn ein darpariaeth a'n gwasanaethau.

"Rydym yn gwneud hyn yng nghyd-destun heriau a phwysau ariannol sylweddol - mae'r BBC wedi profi gostyngiad o oddeutu 30% mewn cyllid (mewn termau real) ers 2010.

"Rydym yn ymroddedig i sicrhau bod ein cynulleidfaoedd ieithyddol yn derbyn darpariaeth o ansawdd uchel, ac rydym yn parhau i fod yn uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol gyda'r cyllid sydd ar gael.

"Mae cwestiynau ynghylch cyllido yn y dyfodol a darparu'r gwasanaethau hyn yn ganolog i'r ddadl ar gyfer Siarter nesaf y BBC a sut y dylid ariannu’r Gorfforaeth yn y blynyddoedd sydd i ddod."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.