Dyn o Langollen gafodd ei anafu mewn damwain yn Tsieina wedi dychwelyd i Gymru
Mae dyn ifanc o Langollen wedi cyrraedd adref yng Nghymru ar ôl cael ei anafu’n ddifrifol mewn damwain tra ar feic yn Tsieina.
Fe gafodd Dyfan Hughes ei anafu mewn gwrthdrawiad â lori ym mis Awst wrth deithio drwy Tsieina fel rhan o daith seiclo elusennol o Langollen i Wlad Thai.
Mewn neges ar gyfryngau cymdeithasol fore Mercher, fe rannodd Mr Hughes glip o’i daith Tseinia i Wrecsam.
Mae’n dangos cymal cyntaf y daith, o’r ysbyty yn Chengdu yng ngorllewin Tseina, ble mae wedi bod yn derbyn gofal a thriniaethau dros yr wythnosau diwethaf, i’r maes awyr mewn ambiwlans, cyn hedfan i Hong Kong.
Yna, fe ymunodd ar hediad o Hong Kong i Heathrow, a gymerodd 13 awr a hanner.
Fe dynnodd y cwmni hedfan naw set allan o gefn yr awyren er mwyn gwneud lle i wely Mr Hughes ar gyfer yr hediad, gyda doctor a nyrs yn gydag ef drwy gydol y daith.
“Rydw i nôl yn Wrecsam," meddai.
"Mae’n teimlo’n rhyfedd iawn bod yma ond mae wedi bod yn wych gweld gymaint o fy nheulu. Ac mae’n grêt cael gwely gyfforddus yma hefyd, mae’n gymaint yn fwy gyfforddus na’r yn oedd gen i yn Tsieina.”
Dywedodd Mr Hughes y byddai’n parhau i dderbyn profion yn yr ysbyty yn Wrecsam.
“Dwi am gael tynnu’r pwythau sydd gen i, dwi am gael sawl sgan a gweld beth yw’r sefyllfa o fan ‘na," meddai.
“Roedd dychwelyd adref lawer yn haws nag o’n i wedi ddisgwyl, cysgais am naw awr ar yr awyren. Diolch yn fawr i Chris a Kate, y doctor a’r nyrs a deithiodd gyda mi, am wneud yn siŵr fy mod i’n cyrraedd adref yn ddiogel.
“Dwi’n mor hapus i fod yn ôl yma ac mi fyddai’n derbyn gweddill o fy nhriniaeth ac adferiad (rehabilitation) yma yng Nghymru.”
Cychwynnodd Dyfan ar y daith gyda’i ffrindiau James Thomas a Louis Dennis ym mis Awst y llynedd.
Mae’r tri wedi seiclo drwy nifer o wledydd yn Ewrop ac Asia, gan gynnwys Uzbekistan, Tajikistan a Kyrgyzstan, cyn cyrraedd Tsieina ddechrau mis Mehefin.
Maen nhw’n codi arian er cof am dad eu ffrind Harrison, a fu farw o broblemau gyda’i galon.
Cafodd y daith ei gohirio yn dilyn damwain Dyfan, gyda’i rieni yn teithio i Tsieina i fod gydag ef yn yr ysbyty.
Mae’r criw wedi dweud eu bod yn bwriadu dychwelyd at y daith pan fydd hi’n ddiogel i Dyfan feicio eto, gyda’r nod o gyrraedd Chiang Mai yng Ngwlad Thai yn y pen draw.
Lluniau: @west.heads/instagram