Newyddion S4C

Arian ychwanegol i barhau gyda chynlluniau amaethyddol hyd at 2023

Tractor

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd mwy na £66 miliwn ar gael er mwyn parhau â nifer o gynlluniaeth amaethyddol hyd at ddiwedd 2021.

Bydd cytundebau cynlluniau Glastir Uwch, Tir Comin ac Organig yn cael eu hymestyn tan ddiwedd mis Rhagfyr 2023.

Ar hyn o bryd, mae dros 1.3 miliwn hectar o dir amaethyddol Cymru o dan gytundeb Glastir - sef cymorth ariannol ar gyfer rheoli tir ffermydd.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae parhau â'r cynllun yn sicrhau bod safleoedd ac ardaloedd â blaenoriaeth yng Nghymru yn cael eu "rheoli'n effeithiol" er mwyn "sicrhau canlyniadau amgylcheddol cadarnhaol".

Mae'r cynllun yn cynnwys gwarchod a gwella bywyd gwyllt a bioamrywiaeth, gwella adnoddau pridd a dŵr, adfer cynefinoedd mawnogydd a chyfrannu ar ddatgarboneiddio amaethyddiaeth Cymru, medd y Llywodraeth.

Bydd pob un cymwys sydd â chontract ar hyn o bryd yn cael cynnig estyniad.

Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog Materion Gwledig y llywodraeth, mai'r bwriad yw parhau â Chynllun y Taliad Sylfaenol tan 2023, yn amodol ar adolygiad Llywodraeth y DU o wariant:

"Dw i'n falch iawn o fedru sicrhau bod £66.79m ar gael drwy gontractau Glastir Uwch, Tir Comin ac Organig tan fis Rhagfyr 2023," dywedodd.

"Mae'r rhaglen yn hanfodol er mwyn cefnogi'n ffermwyr a bydd yr estyniad hwn yn ein helpu i feithrin gwell dealltwriaeth o effaith camau gweithredu ac ymyriadau Glastir.

Bydd hefyd yn cyfrannu at ddatblygu Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn y dyfodol."

Cyhoeddodd y Gweinidog hefyd fod £7m arall ar gael i estyn y rhaglen Cyswllt Ffermio tan fis Mawrth 2023.

"Bydd yn helpu i greu sector tir mwy proffesiynol, proffidiol a chadarn, wrth inni fynd i'r afael â sawl her a chyfle, gan gynnwys lleihau allyriadau'r holl nwyon tŷ gwydr i sero-net erbyn 2050, ac ymdopi ag amgylchedd masnachu sy'n newid drwy’r amser i'r diwydiant,” meddai’r gweinidog.

Mae mudiad NFU Cymru wedi croesawu’r cyhoeddiad.

Dywedodd llywydd NFU Cymru, John Davies: "Rydym yn croesawu datganiad y gweinidog yn ystod cyfnod llawn ansicrwydd.

“Mae’n newyddion gwych bod ein gweinidog wedi defnyddio dau ymyriad allweddol i ddarparu sefydlogrwydd a pharhad i ffermio yng Nghymru yn ystod cyfnod sylweddol.”
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.