Teuluoedd bomio Arena Manceinion yn galw am gynnwys MI5 yn Neddf Hillsborough

Bomio Manceinion

Mae rhai o deuluoedd y rheini a fu farw yn y bomio yn Arena Manceinion wedi galw am gynnwys MI5 mewn deddf newydd i atal cuddio gwybodaeth gan gyrff cyhoeddus.

Mae ‘Deddf Hillsborough’ sy’n mynd drwy Senedd San Steffan yn dilyn ymgyrch gan deuluoedd yr effeithiwyd arnynt gan drychineb Hillsborough ym 1989 lle bu 97 o bobl farw.

Fe wnaeth ymchwiliad ganfod bod yr heddlu wedi lledaenu naratifau ffug am y drychineb, gan feio cefnogwyr Lerpwl, a chuddio tystiolaeth am eu methiannau eu hunain.

Bydd y gyfraith newydd yn gorfodi swyddogion mewn sefydliadau cyhoeddus i ddweud y gwir yn ystod ymchwiliadau, gan gynnwys rhai i drychinebau mawr.

Mae teuluoedd rhai a fu farw yn ystod y bomio Arena Manceinion yn dweud bod MI5 wedi methu â datgelu gwybodaeth yn yr un modd.

Mewn llythyr at Syr Keir Starmer, maent yn gofyn i’r prif weinidog: “Sawl gwaith y mae’n rhaid i MI5 ddangos nad ydyn ni’n gallu ymddiried ynddyn nhw cyn gwneud rhywbeth?

"Fe wnaethoch chi addewid personol y byddech chi'n dod â'r gyfraith i rym.

"Rydym yn gofyn i chi gadw'r addewid hwnnw'n llawn drwy sicrhau bod y gyfraith newydd yn berthnasol i'r asiantaethau diogelwch a chudd-wybodaeth yn yr un ffordd ag y mae'n berthnasol i bawb arall."

Mae'r llythyr wedi ei arwyddo gan deuluoedd Liam Curry, 19, Chloe Rutherford, 17, y ddwy o South Shields, Megan Hurley, 15, o Lerpwl, Eilidh MacLeod, 14, o Ynys Barra, a Kelly Brewster, 32, o Sheffield.

Daeth ymchwiliad cyhoeddus i’r casgliad nad oedd MI5 wedi rhoi “darlun cywir” o’r wybodaeth allweddol a oedd gan y sefydliad ar y bomiwr a gyflawnodd yr ymosodiad.

Bu farw 22 o bobl ac fe gafodd cannoedd eu hanafu yn yr ymosodiad ar 22 Mai 2017.

Dywedodd Llywodraeth y DU: “Rydym yn gwrando ar adborth ynghylch sut i gryfhau’r gyfraith tra hefyd yn gwarchod diogelwch cenedlaethol.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.