Dyn mewn 'cyflwr difrifol' ar ôl gwrthdrawiad rhwng car a beic trydan yn Abertawe

Llun: Google
Ffordd Caerfyrddin, Abertawe

Mae dyn 27 oed mewn "cyflwr difrifol" ar ôl gwrthdrawiad rhwng car a beic trydan yn Abertawe.

Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod yn ymchwilio i'r gwrthdrawiad a ddigwyddodd ar gyffordd Ffordd Caerfyrddin a Rhodfa Gors yn y ddinas am 23:00 nos Lun.

Roedd Toyota Aygo du a beic trydan yn rhan o'r gwrthdrawiad, meddai'r llu.

Mae dyn 27 oed yn yr ysbyty mewn cyflwr difrifol ond sefydlog.

Mae PS Carl Jenkins o Uned Plismona'r Ffyrdd Heddlu De Cymru yn apelio am unrhyw dystion neu unrhyw un sydd â gwybodaeth am yr hyn ddigwyddodd.

"Hoffwn ddiolch i aelodau'r cyhoedd oedd wedi ein cynorthwyo yn y fan a'r lle," meddai.

"Hoffwn glywed gan unrhyw un oedd wedi gweld y gwrthdrawiad, neu am unrhyw un sydd â lluniau CCTV neu dashcam o'r gwrthdrawiad neu cyn y gwrthdrawiad."

Fe allai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu gyda'r heddlu trwy eu gwefan neu ffonio 101 a dyfynnu'r cyfeirnod 2600004616.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.