Bachgen yn hedfan i’r Unol Daleithiau am lawdriniaeth ar ôl codi £1.5m
Mae bachgen o ardal Wrecsam ar fin hedfan i’r Unol Daleithiau wedi i’w fam godi dros £1.5m ar gyfer triniaeth ar ei galon.
Fe fydd Ollie yn cael y llawdriniaeth yn Ysbyty Plant Stanford yng Nghaliffornia ym mis Ionawr ar ôl cyrraedd y targed codi arian.
Mae ganddo gyflwr o'r enw atresia ysgyfeiniol (pulmonary atresia) nad oes modd ei drin ym Mhrydain.
Fe fydd Ollie yn derbyn y driniaeth ar 23 Ionawr ar ôl cyfres o apwyntiadau yn yr ysbyty o ddydd Iau ymlaen, meddai ei fam Jasmin Roberts.
Mae disgwyl iddo aros yn yr Unol Daleithiau am rai misoedd wedyn wrth ddod ato’i hun.
Yr ymgyrch oedd y digwyddiad codi arian mwyaf yn fyd-eang eleni yn seiliedig ar nifer y rhoddion, meddai GoFundMe.
Fe'i cefnogwyd gan yr actor Hollywood a chyd-gadeirydd Clwb Pêl-droed Wrecsam Ryan Reynolds, a roddodd £10,000.
Dywedodd ei fam Jasmin Roberts ei bod hi’n “ofnus” ond yn gobeithio bod mewn “lle gwahanol iawn” erbyn y flwyddyn nesaf.