Newyddion S4C

Cyngor yn tynnu caniatâd cynllunio yn ôl ar gyfer parc busnes ym Mro Morgannwg

Golwg 360 14/09/2021
Model Farm

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi gwneud tro pedol ar benderfyniad i roi caniatâd cynllunio i barc busnes yn y Rhws.

O dan gynlluniau oedd wedi eu cyflwyno i'r cyngor gan gwmni Legal and General, byddai'r teulu Jenkins wedi gorfod gadael eu cartref ym Model Farm erbyn mis Gorffennaf 2022.

Er i'r cynlluniau gael eu cymeradwyo ddeufis yn ôl, mae dyfodol y fferm bellach yn aneglur, gyda'r cynlluniau wedi gorfod cael eu gohirio.

Darllenwch y stori'n llawn ar wefan Golwg360 yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.