Newyddion S4C

Teulu'n brwydro i atal eu fferm rhag dod yn barc busnes

24/08/2021

Teulu'n brwydro i atal eu fferm rhag dod yn barc busnes

Mae teulu yn brwydro i achub fferm ym Mro Morgannwg, ar ôl cael gorchymyn i adael y fferm deuluol erbyn Gorffennaf 2022.

Mae pedair cenhedlaeth o deulu Jenkins wedi bod yn ffermio Model Farm i’r dwyrain o faes awyr Caerdydd, ger Y Rhws, a hynny ers 1935.

Derbyniodd y tirfeddianwyr, Legal and General, ganiatâd cynllunio fis diwethaf i adeiladu parc busnes ar dir y fferm, sy’n golygu bod rhaid i deulu ifanc symud o’r fferm.

‘Ofnadwy o drist’

Mae Mair Jenkins, mam i Rhys sy’n rhedeg y fferm, wedi disgrifio’r sefyllfa fel un “gofidus”.

“Fe ddaethon nhw ato ni a dweud bod nhw moyn y fferm i gyd, a maen nhw’n mynd i dynnu’r tŷ lawr, ac wrth gwrs gwneud y mab yn ddigartref.

“Mae’n ofnadwy o drist i’r gŵr yn enwedig, nath ei fam a’i dad yn enwedig weithio mor galed i wneud y ffarm yn llwyddiant, a’i dad-cu o’i flaen e. Hwnnw sy’n gwasgu.

“'Ma’ da Rhys (mab Ms Jenkins) nawr ferched bach sy’n dair a blwydd oed, felly mae hyn yn ei wneud yn fwy gofidus iddo fe… Mae’n teimlo ei fod lan iddo fe i edrych ar eu holau nhw", meddai Ms Jenkins.

Image
Model Farm protest
Roedd protest yn erbyn y cynlluniau o flaen y Senedd ddydd Sadwrn.

Mae grŵp ymgyrchu wedi ei sefydlu i frwydro yn erbyn penderfyniad Cyngor Bro Morgannwg i roi caniatâd cynllunio.

Mae ymgyrchwyr yn honni y byddai'r parc busnes yn ddrwg i'r amgylchedd, yn niweidio bioamrywiaeth ac yn cynyddu tagfeydd traffig.

“Mae’n dir gwyrdd, ma’ anifeiliaid, pryfed, gwenyn, ystlumod, moch daear, popeth ar y tir ond maen nhw wedi anwybyddu hynny. A waeth na hynny, ochr draw i’r fferm mae tua 100 erw gyda'r fro, maen nhw’n berchen ar hwnna a does dim byd yna", ychwanegodd Ms Jenkins.

Yn ôl llefarydd ar ran Cyngor Bro Morgannwg, mae’r cais cynllunio wedi ei gymeradwyo “ar ôl ystyried yr holl ffactorau perthnasol yn llawn”.

“Gellir gweld adroddiad yn egluro sut yn union y daethpwyd i'r penderfyniad ar wefan y Cyngor.  Mae’n mynd i'r afael yn fanwl â phryderon sy'n ymwneud â'r argyfwng hinsawdd, gwrthwynebiadau lleol a chefnogaeth.

“Mae hefyd yn nodi bod polisi Llywodraeth Cymru a fabwysiadwyd yn ddiweddar yn cefnogi egwyddor y datblygiad hwn o ystyried ei leoliad strategol, gyda chysylltiadau â’r unig faes awyr yng Nghymru".

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.