Sera Cracroft yn galw am 'addysgu'r gymdeithas gyfan' am gam-drin plant yn rhywiol

Sera Cracroft

Mae actores Pobol y Cwm, Sera Cracroft, wedi dweud bod angen “addysgu cymdeithas gyfan” am gamdriniaeth rywiol yn erbyn plant – “ddim jyst helpu goroeswyr.” 

Wrth siarad â Newyddion S4C dywedodd yr actores 59 oed bod angen helpu pobl “i ddeall maint y broblem” gan fod gymaint o bobl yn teimlo cywilydd dros siarad yn agored am eu profiadau. 

Daw wrth i Lywodraeth Cymru lansio ymgynghoriad ar ei strategaeth newydd i atal ac ymateb i gam-drin plant yn rhywiol yng Nghymru ddydd Mercher. 

Yn ôl y llywodraeth, dyma yw’r strategaeth hirdymor gynhwysfawr “gyntaf o'i bath yn y Deyrnas Unedig” gan ei bod a gweledigaeth 10 mlynedd o hyd. 

Er ei bod yn falch bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynllun o’r fath mae Sera yn cwestiynu pa mor llwyddiannus fyddan nhw wrth geisio “gwireddu” eu hamcanion. 

Mae’n dweud bod angen sicrhau bod y strategaeth yn cael ei hariannu’n ddigonol neu bydd ‘na beryg na chaiff pobl eu cefnogi’n gywir. 

“Mae’n ddigon hawdd dweud bod ganddyn nhw’r strategaeth ond mae rhaid i nhw ei hariannu’n iawn,” meddai. 

“Mae rhaid i chdi ariannu addysg yn well, mae rhaid ariannu’r system iechyd yn well achos fan ‘na mae pobl mynd i bod yn ymyl plant a deall be sy’n digwydd. 

“Os na ‘di hyn yn cael ei ariannu’n iawn yna mae’n anodd iawn i gefnogi bobl.”

Image
Sera Cracroft
Sera Cracroft yn cael ei chyfweld gan Elin Fflur wrth iddi siarad yn gyhoeddus am ei phrofiadau am y tro cyntaf yn 2023

Mewn ymateb i'w phryderon, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mai "strategaeth draws-lywodraethol a thraws-sector" yw hon.

Mae hyn yn golygu ei bod wedi cael ei chynllunio mewn ffordd sydd yn gwneud y defnydd mwyaf o gyllid ac yn arwain at yr "effaith gorau posib."

"Fel strategaeth 10 mlynedd o hyd, fe fydd y cyllid yn addasu wrth i flaenoriaethau a rhannau gwahanol o'r cynllun ddatblygu." 

'Rŵan da ni’n gwybod am Foden'

Fe benderfynodd Sera, sy’n chwarae rhan Eileen yng nghyfres Pobol y Cwm, siarad yn agored am ei phrofiad o ddioddef ymosodiad rhywiol yn blentyn ar bennod arbennig o Sgwrs Dan y Lloer ar S4C yn 2023. 

Roedd yr actores wedi “mynd yn sâl o ddifrif” gan ddioddef gyda’i hiechyd meddwl yn ystod ei 40au. Doedd hi heb sylweddoli mai camdriniaeth oedd “gwraidd” ei phroblemau cyn iddi dderbyn cwnsela.

Erbyn hyn mae'n cydweithio gydag elusennau yn erbyn cam-drin plant yn rhywiol. Mae’n dweud bod addysgu pobl yn hollbwysig wrth geisio mynd i’r afael a cham-drin rhywiol yn erbyn plant. 

“Ystadegau dwi ‘di weld, mae un allan o bob pedair merch ac un allan o bob chwe bachgen wedi eu cam-drin yn rhywiol yn eu plentyndod.  

“Felly dwi meddwl bod angen addysgu cymdeithas gyfan, ddim jyst helpu goroeswyr.” 

Mae’n dweud y gallai codi ymwybyddiaeth ar lawr gwlad helpu pobl i ddeall graddfa’r sefyllfa yng Nghymru. 

Esboniodd Sera: “Be’ sydd hefyd yn digwydd ydi bod ni’n meddwl bod o jyst yn digwydd yn rhyw le arall. 

“Yng Nghymru ‘da ni ddim yn meddwl bod Cymry a Cymry Cymraeg yn troseddu fel hyn a ma’ nhw, da ni gwybod bod nhw. 

“A rŵan da ni’n gwybod bod Foden ‘di bod… mae angen ‘neud ‘wbeth achos yng Nghymru mae’r troseddau mae’n digwydd.”  

Image
Sera Cracroft
Mae Sera Cracroft wedi chwarae rhan Eileen yn nghyfres sebon S4C Pobol y Cwm ers 1989

'Trosedd erchyll'

Mae tua 25,000 o blant yn profi camdriniaeth rywiol bob blwyddyn yng Nghymru. 

Ond yn ôl Llywodraeth Cymru, dim ond “cyfran fach o'r plant hyn sy'n dod i sylw'r heddlu a'r gwasanaethau cymdeithasol.” 

Maen nhw wedi cydweithio gydag oedolion sydd wedi goroesi camdriniaeth yn blant, yn ogystal â’r NSPCC, y Ganolfan Arbenigedd ar Gam-drin Plant yn Rhywiol, Barnardo's, a Sefydliad Lucy Faithfull er mwyn llunio eu strategaeth. 

Dywedodd y llywodraeth bod ganddynt bedwar nod strategol, sef: 

- Atal cam-drin plant yn rhywiol

- Amddiffyn plant sydd wedi'u heffeithio gan gamdriniaeth

- Cefnogi plant a theuluoedd

- Cefnogi oedolion oedd wedi profi camdriniaeth fel plant

Dywedodd Dawn Bowden, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol bod angen “i ni wneud popeth o fewn ein gallu i fynd i'r afael â'r drosedd erchyll o gam-drin plant yn rhywiol.” 

"Rwy'n annog unigolion, sefydliadau a chymunedau ledled Cymru i rannu eu barn ac i helpu i siapio’r gwaith hanfodol hwn,” meddai. 

Bydd ymgynghoriad y strategaeth yn agored tan 15 Medi 2025, ac mae'r ddogfen ymgynghori ar wefan Llywodraeth Cymru. 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.