Agor cwest i farwolaeth dyn wedi gwrthdrawiad ar Ynys Môn

Arwyn Jones teyrnged

Mae agoriad cwest i farwolaeth dyn o Ynys Môn wedi clywed iddo farw o'i anafiadau wedi i'r car yr oedd ynddo wrthdaro gyda char arall ger Pentraeth ar yr ynys.

Bu farw Thomas Arwyn Jones o Frynsiencyn yn 29 oed yn dilyn y digwyddiad ar ffordd yr A5025 ar 25 Ionawr. 

Ddydd Mercher, cafodd cwest i’w farwolaeth ei agor a’i ohirio yng Nghaernarfon.

Mae canlyniad archwiliad post mortem dros dro yn nodi ei fod wedi marw o "drawma difrifol i'w frest".

Dywedodd crwner cynorthwyol gogledd-orllewin Cymru, Sarah Riley: "Mae'r ymholiadau i sut y daeth Thomas Arwyn Jones i'w farwolaeth yn parhau ac felly mae'r cwest wedi'i ohirio."

'Gŵr, tad, mab a brawd cariadus'

Mewn teyrnged iddo, dywedodd ei wraig Sioned: "Fel ei wraig, mae fy nghalon i wedi torri. 

"Roedd Arwyn yn ŵr, tad, mab a brawd cariadus, ac fel teulu, mae ein bywydau ni wedi eu newid am byth yn dilyn ei golli.

"Roedd Arwyn a minnau wedi bod gyda'n gilydd ers dros 15 mlynedd ac ef oedd fy nghariad oes. Ein merch, Lilly, oedd ei fywyd. Mae ein byd wedi’i rwygo’n ddarnau.

"Fe fyddai'n gwneud unrhyw beth i unrhyw un, ac roedd yn mwynhau ei waith fel cynorthwydd cegin mewn cartref gofal ym Mhentraeth, ble'r oedd yn gweithio ers mis Medi y llynedd."

Mae swyddogion yn parhau i apelio am dystion a gwybodaeth i gynorthwyo gyda'u hymchwiliad i'r digwyddiad a ddigwyddodd rhwng Pen-Y-Garnedd a garej Pentraeth Automotive.

Roedd y gwrthdrawiad rhwng cerbyd llwyd Peugeot 208 a cherbyd Audi A5 Quattro aur. 

Dylai unrhyw un a oedd yn gyrru ar hyd yr A5025 tua 06.30 ar 25 Ionawr, ac a allai fod wedi gweld y digwyddiad, neu a allai fod â lluniau camera dangosfwrdd perthnasol, gysylltu â'r heddlu.

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.