Naw o bobl wedi eu lladd wedi achos o saethu yng Nghanada

Nina Krieger yn siarad wedi saethu yng Nghanada

Mae naw o bobl wedi eu lladd a 25 o bobl wedi eu hanafu wedi achos o saethu yng Nghanada.

Fe fuodd chwech ohonynt farw mewn ysgol uwchradd yn Tumbler Ridge sydd yng ngorllewin y wlad. Fe wnaeth un person arall farw tra ar y ffordd i'r ysbyty.

Mae'r heddlu wedi dod o hyd i ddau berson arall wedi marw mewn cartref gerllaw.

Yn ôl swyddogion mae'r unigolyn sydd o dan amheuaeth wedi lladd ei hun. Y gred yw mai merch oedd y person sydd yn gyfrifol. Mewn rhybudd i bobl yn y gymuned fe wnaeth yr heddlu ei disgrifio fel "merch mewn ffrog gyda gwallt brown".

Cafodd ei chorff hi ei darganfod yn yr ysgol. 

Mae Prif Weinidog Canada, Mark Carney wedi dweud ei fod wedi "llorio" gyda'r newyddion ac mae wedi gohirio trip i'r Almaen.

Roedd i fod i fynd i Gynhadledd Diogelwch yn Munich.

Cymuned fechan yw Tumbler Ridge. Mae'r maer wedi dweud wrth CBC ei fod yn amau y bydd yn adnabod yr holl ddioddefwyr. "Fe fyddai yn adnabod bob un o'r dioddefwyr. Dwi wedi bod yma ers 19 mlynedd ac rydyn ni yn gymuned fach. Dwi ddim yn ei galw nhw yn drigolion. Dwi'n galw nhw'n deulu," meddai Darryl Krakowka.

Mae Gweinidog Diogelwch y Cyhoedd a thwrnai cyffredinol ar gyfer talaith British Columbia wedi dweud bod ymateb cyflym yr heddlu wedi "achub bywydau".

Fe wnaethon nhw gyrraedd yr ysgol o fewn "dau funud" ar ôl derbyn yr alwad bod yna saethu wedi digwydd.

Dyma un o'r saethu gwaethaf i ddigwydd yn hanes Canada.

Llun: Reuters 

 

 

 

 

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.