'Gwireddu breuddwyd': Newyddiadurwr o Abertawe yn olygydd gwleidyddol benywaidd cyntaf asiantaeth newyddion

Heno

'Gwireddu breuddwyd': Newyddiadurwr o Abertawe yn olygydd gwleidyddol benywaidd cyntaf asiantaeth newyddion

Mae newyddiadurwr o Abertawe yn dweud iddi wireddu breuddwyd ar ôl bod y fenyw gyntaf i gael ei phenodi yn olygydd gwleidyddol yn asiantaeth newyddion PA.

Fe wnaeth Rhiannon James greu hanes wrth iddi gael ei phenodi’n Olygydd Seneddol yn asiantaeth newyddion y Press Association yn San Steffan ym mis Mehefin y llynedd.

Mae'r asiantaeth newyddion wedi bodoli ers 1868, 158 o flynyddoedd yn ôl.

Yn gyn ddisgybl yn Ysgol Gynradd Gymraeg Gellionnen yng Nghlydach ac Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe ym Mhenlan, mae’n dweud bod y rôl “fel breuddwyd” iddi. 

“Ni yn ‘neud lot o waith yn y siambr so ni’n ishte ‘na yn y Commons a’r Lords,” meddai. 

“Mae fe mor hwyl, ti’n cerdded paso y bobl hyn yn y coridor, pobl ti ‘di clywed am flynyddoedd a ti jyst yn gweld nhw a ma’ fe’n grêt.” 

Mae bellach yn rheoli tîm o newyddiadurwyr, ac maen nhw’n gyfrifol am adrodd ar yr hyn sy’n digwydd yn San Steffan gan ddarparu erthyglau i wasanaethau newyddion eraill. 

Image
Rhiannon James
Rhiannon James

Dywedodd Rhiannon ei bod hi wedi penderfynu ar ddyfodol yn y byd newyddiadurol tra'r oedd hi yn yr ysgol uwchradd. 

“O’n i’n joio’r cyfryngau yn yr ysgol a ‘odd mam a dad falle ddim yn rhy sicr pryd o’n i wedi penderfynu mynd ymlaen i ‘neud hwn yn y brifysgol,” meddai. 

Wedi iddi raddio o Brifysgol Caerdydd, fe gafodd Rhiannon ei phrofiad cyntaf fel newyddiadurwr gyda phapur newydd Caerphilly Observer ble roedd hi’n gweithio fel gohebydd democratiaeth leol. 

“O’n i basically jyst yn mynd ac eistedd mewn cyfarfodydd y cyngor a gwrando ar beth oeddwn nhw’n gweud, so ‘odd hwnna’n ffordd eitha’ neis o fynd mewn i wleidyddiaeth.”

Image
Rhiannon James

Penderfynodd symud i Lundain yn ddiweddarach ble gafodd hi swydd gyda’r Mail Online.

“Odd e’n bapur masif, odd e’n waith caled, o’ chi’n ‘neud lot o shifts nos, dros nos," meddai.

“Ond o’n i ddim ond yna am bedwar mis yn y diwedd achos o’n i’n barod am rywbeth gwahanol. 

“O’r Mail Online o’n i ‘di dechrau gyda’r Press Association, so ‘na le yw i nawr.” 

Image
Rhiannon James

Mae bellach wedi bod yn gweithio gyda’r asiantaeth newyddion am ddwy flynedd, a hithau’n edrych ymlaen at ei dyfodol yn y byd newyddiadurol – a dychwelyd adref. 

“Falle ai mewn i’r lobi yn San Steffan a gweithio y’n ffordd lan fan na, falle ar y papurau, sai’n siŵr," meddai.

“Ond bydda i’n symud nôl i Gymru.” 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.