Cyngor Gwynedd i ystyried cau ysgol gynradd gyda dau ddisgybl

Ysgol y Garreg Llanfrothen

Mae cyngor Gwynedd yn ystyried cynllun i gau ysgol gynradd yng Ngwynedd sydd â dim ond dau ddisgybl. 

Mae cabinet Cyngor Gwynedd wedi dweud y byddan nhw'n cynnal ymgynghoriad statudol am gynllun i gau Ysgol Y Garreg yn Llanfrothen.

Roedd gan yr ysgol 17 o ddisgyblion y llynedd, ond dim ond dau ddisgybl blwyddyn chwech sydd yno erbyn hyn.

Does 'na chwaith ddim unrhyw gofrestriadau newydd ar gyfer y dosbarth derbyn ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf.

Bydd yr ymgynghoriad yn rhoi 28 diwrnod i bobl leisio eu gwrthwynebiad i fwriad y cyngor i gau'r ysgol ar 31 Awst, 2026.

Os fydd y cynllun yn cael ei wireddu, bydd plant yr ardal yn mynd i Ysgol Cefn Coch ym Mhenrhyndeudraeth o fis Medi 2026.

'Sefyllfa drist iawn'

Mae'r adroddiad yn dweud bod y cynllun yn ceisio mynd i'r afael â'r "sefyllfa dyngedfennol" yn yr ysgol.

Dywedodd yr aelod cabinet dros addysg, y Cynghorydd Dewi Jones: "Nid yw hyn yn unrhyw beth newydd i ni yng Ngwynedd, a dweud y gwir, mae'n ganlyniad i newidiadau mawr yn nemograffeg y sir.

"Yn ôl yn 2011 i 2021, cyfnod o 10 mlynedd, erbyn y diwedd roedd ychydig dros 1,500 yn llai o blant rhwng 0-15 oed - mae hynny'n amlwg yn mynd i gael effaith ar ein sir a'n hysgolion.

"Tua’r un pryd, fe wnaeth y gyfradd geni ostwng 25%. Yn 2012, cafodd tua 1,300 o blant eu geni ac erbyn 2022 roedd y ffigwr hwnnw wedi gostwng i 997.

"Rydym yma i drafod Ysgol Y Garreg, dyna’r ffocws, ond rwy’n credu ei bod hi’n bwysig ein bod yn ystyried yr ysgol hon o fewn y cyd-destun ehangach, oherwydd nid yw’r hyn y mae’r gymuned hon wedi’i wynebu yn unigryw, nac i Wynedd, ledled Cymru na hyd yn oed ledled y byd.

"Mae cyfraddau geni yn gostwng ac mae llai o blant yn byw yn ein cymunedau."

Ychwanegodd mai dim ond dau ddisgybl oedd ym mlwyddyn chwech ar hyn o bryd a dim cofrestriadau newydd ar gyfer y dosbarth derbyn.

"Erbyn mis Medi, ni fydd unrhyw blant o gwbl," meddai.

Fe aeth ymlaen i ddweud mai "dyletswydd" y cyngor oedd edrych ar ddyfodol yr ysgol, nad oedd yn "gynaliadwy" ac "nad oedd yn cynnig y profiad y mae'n ei ddymuno ar gyfer plant Gwynedd".

"Mae’n sefyllfa drist, ond y cynnig yw cau Ysgol Y Garreg," meddai.

"Mae wedi gwasanaethu’r gymuned ers blynyddoedd lawer, ac mae staff yn gwneud eu gorau dros yr ysgol a’r ddau ddisgybl, a nifer o [aelodau] o staff dros y blynyddoedd, a byddwn yn diolch iddynt am eu gwasanaeth."

'Cymdeithas wedi newid'

Dywedodd arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Nia Jeffreys, ei bod hi’n derbyn y newyddion gyda "chalon drom".

Fe wnaeth y Cynghorydd June Jones, yr aelod lleol, gytuno, gan ddweud ei bod yn "sefyllfa drist iawn".

"Mae’r ysgol wedi bod yno, dwi’n meddwl, ers tua 143 o flynyddoedd, ac mae wedi darparu addysg ragorol i blant yr ardal," meddai.

"Mae llawer o bobl yn meddwl llawer o’r ysgol ac mae’n drist bod nifer y disgyblion wedi gostwng mor gyflym.

"Mae nifer y plant yn y byd gorllewinol wedi gostwng yn sylweddol ac mae cymdeithas wedi newid.

"Mae gan rieni’r hawl i symud eu plant i ysgolion sy’n gweddu’n well i’w ffordd o fyw, ac nid wyf yn eu beio."

Fe wnaeth ddiolch i gyn-staff a llywodraethwyr, gan ofyn i'r cyngor ystyried ailstrwythuro'r adeilad ar gyfer "plant sy'n ei chael hi'n anodd ymgartrefu yn y brif ffrwd" a sicrhau bod y gymuned yn "cael dweud eu dweud" am ei dyfodol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.