Caernarfon: Helwyr pedoffiliaid wedi adrodd am ddyn a gafodd ei ddarganfod yn farw
Rhybudd: Mae'r erthygl hon yn ymwneud â hunanladdiad
Mae cwest wedi clywed fod dyn a gafodd ei ddarganfod yn farw yn y Fenai yng Nghaernarfon y llynedd wedi ei ladd ei hun wythnosau ar ôl i helwyr pedoffiliaid ar-lein adrodd amdano i'r heddlu.
Bu farw Paul Williams, 55, o Gaernarfon, a oedd yn uwch swyddog sicrwydd ansawdd yn y diwydiant bwyd, ym mis Medi'r llynedd.
Clywodd cwest fod y tad wedi cael ei arestio ddiwedd mis Mehefin ar ôl i grŵp helwyr pedoffiliaid o'r enw The Underworld gysylltu gyda'r heddlu yn honni ei fod wedi cyfathrebu gyda negeseuon o natur rywiol gyda thair "merch ifanc".
Penderfynodd yr heddlu y byddan nhw'n rhybuddio Mr Williams, gan nad oedd unrhyw dystiolaeth fod ganddo ddelweddau anweddus.
Ond roedd aelodau o'r grŵp wedi bod yn cyhoeddi negesuon amdano ar y cyfryngau cymdeithasol.
Dywedodd crwner cynorthwyol gogledd orllewin Cymru, Sarah Riley: "Roedd y broses o roi'r rhybudd amodol yn mynd rhagddi ar adeg ei farwolaeth."
Ychwanegodd bod yr heddlu wedi darganfod nodiadau gan Mr Williams.
"O fewn un llythyr a gafodd ei gyfeirio at Heddlu Gogledd Cymru, roedd Mr Williams wedi nodi'n fanwl yr effaith a gafodd gweithredoedd y grŵp helwyr pedoffiliaid arno, gan gynnwys colli ei swydd," meddai.
"Yr unig ffordd resymegol ymlaen, yn ei farn o, oedd dod â’i fywyd i ben."
Roedd wedi mynd i mewn i'r dŵr yng Nghaernarfon gyda'i ddillad ymlaen yng nghanol y nos.
Daeth y cwest i'r casgliad fod Mr Williams wedi marw o hunanladdiad.
"Roedd yr amgylchiadau'n pwyso'n drwm ar ei feddwl," ychwanegodd Ms Riley.