Carchar i ddyn o Sir Gaerlŷr am ddwyn daliwr canhwyllau o Gastell Cyfarthfa
Carchar i ddyn o Sir Gaerlŷr am ddwyn daliwr canhwyllau o Gastell Cyfarthfa
Mae dyn 31 oed o Sir Gaerlŷr wedi ei garcharu ar ôl iddo ddwyn daliwr canhwyllau gwerthfawr o arddangosfa yng Nghastell Cyfarthfa, Merthyr Tudful.
Cafodd yr heddlu eu galw ddydd Mawrth 8 Ebrill wedi adroddiadau bod lladrad yno, a oedd yn cynnwys daliwr canhwyllau (candelabra) a oedd yn werth tua £80,000.
Fe wnaeth Tyson Wilsher, o Bagworth, gerdded i mewn i’r castell tra roedd plant ysgol gynradd leol yn cyflwyno prosiectau yno i feirniaid a gwesteion.
Aeth Wilsher i ystafell Crawshay, a gyda bricsen yn ei law, torrodd wydr y cabinet a oedd yn arddangos y daliwr canhwyllau, gan achosi difrod sylweddol i’r cabinet ac eitemau eraill.
Wrth ddianc mewn Ford Fiesta arian, fe wnaeth Wilsher yrru’n gyflym i lawr lôn un-ffordd ym maes parcio’r castell.
Daeth i’r amlwg yn ddiweddarach bod y car a oedd yn cael ei yrru gan Wilsher wedi’i ddwyn yn flaenorol ar 24 Mawrth 2025, ar ôl i’r perchennog adael y cerbyd i gludo nwyddau i gwsmer.
Cafodd Wilsher ei ddyfarnu'n euog o ddwyn, achosi difrod troseddol i eiddo a derbyn nwyddau oedd wedi’u dwyn.
Cafodd ddedfryd o garchar am ddwy flynedd ac wyth mis yn Llys y Goron Teeside.
Dywedodd y Rhingyll Watts o Heddlu De Cymru: “Roedd hwn yn lladrad digywilydd yng ngolau dydd, a adawodd grŵp o blant ysgol mewn sioc ac yn llawn gofid.
“Trwy waith y tîm ymchwilio, llwyddom i adnabod Tyson Wilsher gan ddod ag e i'r llys.
“Mae gweithredoedd Wilsher yn dangos ei fod yn credu ei fod uwchlaw’r gyfraith ac nad oedd yn poeni am effaith ei weithredoedd ar y lleoliad.
“Rwy’n falch o weld y ddedfryd gan y llys.”