
Rhubudd am 'ddirywiad y Gymru wledig' oherwydd prinder disgyblion ysgol
Rhubudd am 'ddirywiad y Gymru wledig' oherwydd prinder disgyblion ysgol
Mae cyn arweinydd Cyngor Sir Penfro wedi rhybuddio y gallai cymunedau gwledig wynebu'r un math o ddirywiad â chymunedau glofaol yn y 1980au wrth i niferoedd disgyblion grebachu ac yn sgil heriau demograffeg.
Mae'r Cynghorydd John Davies wedi galw am fuddsoddiad sylweddol yn y Gymru wledig, wrth i ffigurau ddangos bod dros 2,000 yn llai o blant ysgol yn Sir Benfro erbyn hyn o gymharu â 1996.
Mae'r Cyngor yn bwriadu ymgynghori ar ddyfodol dwy ysgol, ac mae rhieni yn Nhegryn wedi addo brwydro yn erbyn cynlluniau i gau Ysgol Clydau yn y pentref.
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn "cydnabod yr heriau sy’n codi yn sgil newidiadau demograffig, gan gynnwys gostyngiad yn nifer y disgyblion a'u bod yn "parhau i fonitro tueddiadau."
Yn Nhegryn, cafodd diwrnod hwyl a charnifal ei gynnal eleni fel sydd yn digwydd bob blwyddyn, gyda phlant yr ysgol leol yn chwarae rhan ganolog yn y dathliadau.

Ond er i'r plant a'r rhieni ymuno yn yr hwyl trwy wisgo fel cymeriadau o gartŵn y Smyrffs, mae yna bryder mawr am y dyfodol.
'Pentref yn marw'
Mae gan Steven Chambers fab ym mlwyddyn 6: "Mae teimladau yn gryf i gadw'r ysgol ar agor.
"Mae pob un yn mynd i ymladd i gyd, all the way. Maen nhw ffili credu bod nhw mo'yn cau'r ysgol.
"Os gaeiff yr ysgol, bydd pobl mwy mewn oedran yn symud mewn a llai o bobl a phlant. Bydd y pentref jyst yn marw rili," meddai.
Roedd plant Huw Scourfield yn ddisgyblion yn yr ysgol, a nawr mae ganddo wyrion yn Ysgol Clydau:"Mae'r broblem o bobl hŷn yn symud i'r pentref ddim yn un newydd ond 'na gyd mae hyn yn mynd i wneud yw hybu hynny.
"Bydd e'n digwydd yn fwyfwy fel mae amser yn mynd mlaen. A fydd pobl ifanc mo'yn symud mewn os na fydd ysgol yma ? D'wi ddim yn gwybod," meddai.
Mae'r Cynghorydd John Davies wedi bod yn aelod o dasglu ar y cyngor sydd wedi edrych ar ddyfodol ysgolion y sir. Mae'n dweud bod yna heriau enfawr i'r Gymru wledig : "Mae yna ddiboblogi yn digwydd, mewn un ystyr, ond y demograffeg yw e.
"Mae hon yn her nid yn unig yn y cyd-destun gwledig ond ar draws y bwrdd," meddai .
"Mae'n poblogaeth ni yn heneiddio, mae'n ysgolion ni yn lleihau ac yn gwacáu, ac mae'n ysbytai a meddygfeydd yn orlawn oherwydd mae'r demograffeg yn newid.
"Mae pobl dros 50 yn dod lawr yma i rannol ymddeol. Ni'n colli'r egni ifanc yna i greu bwrlwm ac economi sydd yn ffynnu yn wledig. Mae'r cyfan yna yn cael ei golli wrth iddyn nhw fynd i'r dwyrain."

Yn ôl ffigurau'r cyngor, mae poblogaeth ysgolion cynradd ardal y Preselau wedi lleihau bron i 19% ar gyfartaledd rhwng 2015 a 2024, a 6.6% yn ardal Dinbych y Pysgod yn ystod yr un cyfnod.
Ar gyfartaledd, mae poblogaeth ysgolion Sir Benfro wedi lleihau 12% ers ad-drefnu llywodraeth leol. Mae disgwyl i nifer y plant yn Sir Benfro rhwng 0-15 oed leihau 11.7% dros y 10-15 mlynedd nesaf.
'Her frawychus'
Mae rhagolygon Llywodraeth Cymru yn awgrymu y bydd yna leihad o bron i 50,000 yn nifer y disgyblion ar draws Cymru erbyn 2040, ac mae'r gyfradd geni wedi bod yn lleihau ers 2010. Fe ddisgrifiwyd y sefyllfa fel "her frawychus" gan Swyddfa Archwilio Cymru yn 2021.
Mae cynghorau fel Ceredigion, Sir Gaerfyrddin, Gwynedd, Powys a Rhondda Cynon Taf wedi bod yn ceisio cynllunio ar gyfer gostyngiad yn nifer y disgyblion mewn rhai ysgolion.
Yn ol y daearyddwr yr Athro Jones o Brifysgol Aberystwyth, mi fydd cynghorau yn gorfod ail ddylunio'r math o wasanaethau maen nhw yn eu cynnig yn sgil newidiadau demograffeg: "Mae'n mynd i effeithio ar ysgolion. Mae yna oblygiadau i ysgolion mewn pentrefi. Mae hynny yn mynd i fod yn effaith amlwg yn yr ardaloedd hynny.
"Mae'n mynd i effeithio yn fwy cyffredinol ar wead cymdeithas. Wrth i boblogaeth heneiddio, mae natur yr ardal honno yn newid, a'r math o wasanaethau chi'n gorfod darparu. Gwario mwy o arian ar wasanaethau cymdeithasol i'r henoed yn hytrach nac ar blant a phobl ifanc."
Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni’n cydnabod yr heriau sy’n codi yn sgil newidiadau demograffig, gan gynnwys gostyngiad yn nifer y disgyblion.
"Rydym yn parhau i fonitro tueddiadau, ochr yn ochr â thystiolaeth a gomisiynwyd gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ar heneiddio a dirywiad y boblogaeth.
"Awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am gynllunio lleoedd ysgolion, a sicrhau bod digon o ysgolion yn eu hardal. Rhaid iddyn nhw adolygu'r galw presennol a'r rhagolygon am leoedd ysgol yn gyson.
"Wrth gynnig newidiadau sylweddol i ysgolion, rhaid i awdurdodau lleol a chynigwyr eraill gydymffurfio â'r Cod Trefniadaeth Ysgolion."
Mae'r Cynghorydd John Davies galw am gynllun buddsoddiad yng nghefn gwlad i geisio lleddfu effeithiau'r her demograffeg: "Mae angen buddsoddi pellach yn yr is-adeiledd.
"Mae band llydan yn rhoi cyfleoedd enfawr a ni'n cychwyn y daith o weld hynny yn digwydd."
"Ond mae angen gwaith arnom ni. Mae angen buddsoddi yn ein gwasanaethau ni. Beth sydd angen ar yr ardal wledig yn y gorllewin ac ar draws Cymru yw gweithredu."