Gemau’r Ynysoedd: Profiad ‘anhygoel’ rhedwr o Fôn wrth ennill medal aur
Mae athletwraig o Ynys Môn wedi dweud bod y profiad o ennill medal aur annisgwyl yng Ngemau’r Ynysoedd yn un “anhygoel”.
Fe enillodd Beca Bown y ras 1,500m, ar ôl rhedeg ei amser cyflymaf y tymor hwn, gan fynd o’r 3ydd safle i’r cyntaf yn y lap olaf.
Mae Ynys Môn bellach wedi ennill dwy fedal aur yn yr athletau ac un fedal efydd mewn gymnasteg yn y cystadlaethau ar Ynysoedd Erch (Orkney).
Fe enillodd Ffion Roberts y ras 400m ac fe gafodd Calla Woodcock fedal efydd ar y trawst gymnasteg.
Dyma oedd yr ail dro i Beca Bown gystadlu ar ôl gorffen ychydig y tu allan i’r medalau ddwy flynedd yn ôl yng Ngemau Ynysoedd Ynys y Garn (Guernsey).
“Mae’n dal yn sioc,” meddai. “Doeddwn i ddim yn disgwyl ennill, ond rwy’n hapus iawn gyda sut aeth y ras.
“Roedd y sŵn yn anhygoel. Dydw i ddim wedi profi rhywbeth fel ‘na o’r blaen.
“Roedd y gefnogaeth i gyd yn anhygoel ac fe wthiodd fi drwodd yn y diwedd. Dydw i dal ddim yn gallu ei gredu.
“Fe wnaeth Ffion yn anhygoel ddoe ac fe ysbrydolodd hi fi heddiw i wthio a mynd am aur.”
Dywedodd y byddai ei theulu “yn eu dagrau”.
“Mae fy nhad a fy nain a thaid yma. Mae fy mam a fy chwaer yn gwylio o adref.
“Felly rydw i’n gyffrous i’w gweld nhw.”