Cip olwg ar benawdau'r bore
Bore da gan dîm Newyddion S4C.
Dyma olwg ar rai o'r prif straeon ar ein gwasanaeth ar fore Mercher, 8 Medi, o Gymru a thu hwnt.
Disgwyl cyhoeddi gostyngiad o wyth yn nifer ASau Cymru yn San Steffan - Wales Online
Bydd manylion am gynlluniau i leihau nifer yr Aelodau Seneddol o Gymru yn San Steffan o 40 i 32 yn cael eu cyhoeddi ar-lein heddiw.
Os yw'r cynllun i newid yr etholaethau seneddol yn cael sêl bendith, bydd gostyngiad o 20% yn nifer yr aelodau o Gymru.
Nifer y bobl ifanc sydd wedi cael triniaeth am hunan-niweidio ‘ar ei uchaf ers degawd’
Mae nifer y plant a phobl ifanc sydd wedi derbyn triniaeth ysbyty ar ôl hunan-niweidio ar ei lefel uchaf yng Nghymru ers degawd medd y Ceidwadwyr Cymreig. Yn ôl gwaith ymchwil y blaid, cafodd 1,274 o blant a phobl ifanc eu cludo i’r ysbyty oherwydd achosion o hunan-niweidio yn 2020/21.
Gweinidog Iechyd Lloegr yn amddiffyn y cynnydd o 1.25% mewn taliadau Yswiriant Gwladol - Sky News
Mae Gweinidog Iechyd Lloegr, Sajid Javid, wedi amddiffyn cynllun Boris Johnson i gynyddu taliadau Yswiriant Gwladol gan 1.25%. Mewn cyfweliad â Sky News, dywedodd Mr Javid "nad yw’n hoffi cynyddu trethi” ond bod angen gwneud er mwyn “atal rhestrau aros y Gwasanaeth Iechyd rhag cyrraedd 13 miliwn o bobl mewn tair blynedd".
Dim un fenyw wedi'i phenodi yn llywodraeth newydd y Taliban - Al Jazeera
Mae’r Taliban wedi cyhoeddi llywodraeth newydd o 33 o aelodau yn Afghanistan. Yn groes i'w haddewidion, nid oes yr un fenyw, na unrhyw un o grefydd leiafrifol yn rhan o'r llywodraeth newydd.
Cymry yn dychwelyd i westy unigryw y Court Royal
Mae gwesty unigryw y Court Royal yn Bournemouth wedi ail-agor ar ôl bod ynghau drwy gynol y pandemig. Dim ond gwesteion sydd â chysylltiad gyda diwydiant glo de Cymru sy'n cael aros yn y Court Royal, ac am y tro cyntaf ers deunaw mis cyrhaeddodd bws llawn o Gymry'r gwesty brynhawn ddydd Mawrth.
Cofiwch ddilyn y diweddaraf ar wasanaeth Newyddion S4C drwy gydol y dydd.